Cyflawna blanhigion ffotosynthesis i wneud bwyd o’r defnyddiau crai o’u hamgylchedd. Ymchwiliwn yr amodau sydd eu hangen ar gyfer y broses hon a’r ffactorau sy’n effeithio ar ei chyfradd.
ffotosynthesisProses gemegol a ddefnyddir gan blanhigion ac algâu i wneud glwcos ac ocsigen o carbon deuocsid a dŵr, gan ddefnyddio egni golau sydd wedi ei amsugno gan cloroffyl. Mae ocsigen yn cael ei gynhyrchu fel isgynnyrch ffotosynthesis. yw’r broses sydd gan blanhigion i wneud carbohydradau o ddeunyddiau crai, gan ddefnyddio egni o olau.
Yn ystod ffotosynthesis:
mae egni golau’n cael ei amsugno gan cloroffylY cemegyn gwyrdd y tu mewn i gloroplastau celloedd planhigion. Mae’n galluogi ffotosynthesis i ddigwydd drwy amsugno egni golau. – sylwedd gwyrdd sydd mewn cloroplastMae’n cynnwys y cloroffyl lliw gwyrdd, sef lle mae ffotosynthesis yn digwydd. mewn celloedd gwyrdd planhigion ac algâu
mae egni golau wedi ei amsugno’n cael ei ddefnyddio i droi carbon deuocsid (o’r aer) a dŵr (o’r pridd) yn siwgr o’r enw glwcos
mae ocsigen yn cael ei ryddhau fel sgil gynnyrch
Mae’r hafaliadau canlynol yn crynhoi’r hyn sy’n digwydd mewn ffotosynthesis.
\(\text{carbon deuocsid + dŵr } \xrightarrow[\text{cloroffyl}]{\text{golau}} \text{glwcos + ocsigen}\)
Mae peth glwcos yn cael ei ddefnyddio ar gyfer resbiradaethAdwaith cemegol sy’n digwydd mewn celloedd byw, gan ddefnyddio glwcos ac ocsigen i ryddhau'r egni sydd ei angen ar organebau i fyw. Carbon deuocsid a dŵr yw sgil gynhyrchion resbiradaeth. ac mae peth yn cael ei droi yn ôl yn startshMath o garbohydrad. Gall planhigion newid y glwcos sy'n cael ei gynhyrchu yn ystod ffotosynthesis yn startsh i'w storio, a'i newid yn ôl yn glwcos pan fo'i angen ar gyfer resbiradaeth. anhydawdd ar gyfer ei storio. Gall y startsh sydd wedi ei storio gael ei droi yn ôl yn glwcos yn ddiweddarach a’i ddefnyddio mewn resbiradaeth.