FfotosynthesisProfi deilen am startsh

Cyflawna blanhigion ffotosynthesis i wneud bwyd o’r defnyddiau crai o’u hamgylchedd. Ymchwiliwn yr amodau sydd eu hangen ar gyfer y broses hon a’r ffactorau sy’n effeithio ar ei chyfradd.

Part ofBiolegCelloedd, systemau organau ac ecosystemau

Profi deilen am startsh

Ymchwilio i ffotosynthesis – startsh a cloroffyl

Yn ystod ffotosynthesis, mae planhigyn yn defnyddio’r pigment, cloroffyl, i amsugno egni golau. Mae hyn yn ei alluogi i drawsnewid carbon deuocsid a dŵr yn glwcos. Mae’r glwcos hwn:

  • yn cael ei gludo i’r rhannau o’r planhigyn sy’n tyfu i’w ddefnyddio ar gyfer resbiradaeth
  • yn cael ei drawsnewid yn , proteinau ac olewau
  • yn cael ei droi’n startsh i’w storio

Felly, i brofi a yw planhigyn wedi bod yn cyflawni ffotosynthesis, galli di brofi’r ddeilen i weld a oes startsh yn bresennol.

Profi am startsh

Mae hydoddiant ïodin yn cael ei ddefnyddio i brofi am bresenoldeb startsh mewn dail. Mae angen i ti:

  1. gynhesu deilen planhigyn mewn dŵr berwedig am 30 eiliad (mae hyn yn lladd y ddeilen gan stopio unrhyw adweithiau cemegol)
  2. rhoi’r ddeilen mewn sy’n berwi mewn baddon dŵr am rai munudau (mae ethanol berwedig yn hydoddi’r cloroffyl ac yn tynnu’r lliw gwyrdd o’r ddeilen - mae’n troi’n wyn, felly mae’n hawdd gweld y newid lliw)
  3. golchi’r ddeilen â dŵr i’w hailhydradu a’i meddalu hi, yna ei rhoi hi ar deilsen wen
  4. ychwanegu hydoddiant ïodin o biped diferu

Mae’r rhannau o’r ddeilen sy’n cynnwys startsh yn troi’r ïodin o frown i las/du.

Mae gan ddail brith rannau gwyrdd (lle mae’r celloedd yn cynnwys cloroffyl) a darnau gwyn (lle nad oes dim cloroffyl). Dim ond y rhannau a oedd yn wyrdd sy’n troi’n las/du gyda’r hydoddiant ïodin, sy’n dangos pa mor bwysig yw cloroffyl yn y broses ffotosynthesis. Dydy’r rhannau heb gloroffyl ddim yn cyflawni ffotosynthesis, felly dydyn nhw ddim yn gwneud startsh a dydy’r ïodin ddim yn newid lliw.

Dwy ddeilen fraith. Mae’r rhan gwyrdd yn cynnwys cloroffyl i gyflawni ffotosynthesis, does dim cloroffyl yn y rhan wen. Mae’r ddeilen ar y dde wedi troi'n las/du yn y rhan oedd yn cynnwys cloroffyl.

Deilen fraith yw’r ddeilen ar y chwith. Mae’r rhannau gwyrdd yn cynnwys cloroffyl ac yn cyflawni ffotosynthesis i wneud startsh. Does dim cloroffyl yn y rhan wen o’r ddeilen, felly dydy’r rhan hon ddim yn cyflawni ffotosynthesis.

Mae’r ddeilen ar y dde yn dangos prawf positif am startsh yn y rhannau oedd yn cynnwys cloroffyl, a phrawf negatif am startsh yn y rhannau lle does dim cloroffyl.

Mae hyn yn dystiolaeth i ddangos bod angen cloroffyl ar gyfer ffotosynthesis.

Mae modd tynnu’r startsh o blanhigyn trwy ei adael yn y tywyllwch am rai oriau. Wedyn gorchuddia rannau o’r dail â phapur tywyll a gadael y planhigyn yn y golau am rai oriau. Dim ond y rhannau sydd heb eu gorchuddio sy’n troi’n las/du gyda’r hydoddiant ïodin, sy’n dangos pa mor bwysig yw golau yn y broses ffotosynthesis.

Question

Mae ethanol yn fflamadwy felly rydyn ni’n ei wresogi mewn baddon dŵr poeth yn hytrach na defnyddio llosgydd Bunsen. Oherwydd bod ethanol yn berwi ar 78°C, mae tiwb ohono’n berwi wrth gael ei roi mewn bicer o ddŵr poeth.

Yn yr arbrawf hwn, mae angen i ti roi deilen mewn ethanol berwedig i’w dadliwio hi. Ysgrifenna asesiad risg ar gyfer hyn.

PeryglRisgMesur rheoli
Perygl
Risg
Mesur rheoli