FfotosynthesisFfotosynthesis: oes angen carbon deuocsid?
Cyflawna blanhigion ffotosynthesis i wneud bwyd o’r defnyddiau crai o’u hamgylchedd. Ymchwiliwn yr amodau sydd eu hangen ar gyfer y broses hon a’r ffactorau sy’n effeithio ar ei chyfradd.
Oes angen carbon deuocsid i blanhigyn gyflawni ffotosynthesis?
I ymchwilio i weld a oes angen carbon deuocsid er mwyn i blanhigyn gyflawni ffotosynthesis, mae angen i ni greu amodau i’r planhigion lle mae carbon deuocsid yn bresennol mewn un prawf ac yn absennol mewn un arall. Mae’r aer yn cynnwys 0.04% carbon deuocsid. Mae gwyddonwyr yn gallu defnyddio sodiwm hydrocsid Cemegyn sy’n cael ei ddefnyddio i amsugno carbon deuocsid o’r aer. i amsugno carbon deuocsid o’r aer fel nad yw ar gael i’r planhigion i’w ddefnyddio yn ystod ffotosynthesis.
Question
Yn yr arbrawf penodol hwn, mae planhigyn heb startsh yn cael ei orchuddio â bag plastig tryloyw aerglos. Mae’r cemegyn sodiwm hydrocsid yn cael ei roi yn y bag gyda’r planhigyn i amsugno’r carbon deuocsid. Mae’r planhigyn yn cael ei adael am 24 awr ac mae’r dail yn cael eu profi am startsh gan ddefnyddio ïodin. Bydd y dail yn dangos nad oes dim startsh wedi’i wneud oherwydd nad oes ffotosynthesis wedi digwydd heb garbon deuocsid.
Beth yw diben y rheolydd?
Mae’r rheolydd yn cael ei gadw yn yr un amodau yn union â’r arbrawf, ond gan ddefnyddio dŵr yn lle’r newidyn annibynnol (sodiwm hydrocsid). Mae hyn yn golygu nad oes carbon deuocsid wedi cael ei amsugno o’r aer.
Diben y rheolydd yw cymharu i ddangos y byddai’r planhigyn yn gwneud startsh drwy gyfrwng ffotosynthesis pe na bai’r sodiwm hydrocsid yn amsugno’r carbon deuocsid.
Dyma’r dystiolaeth mai’r newidyn annibynnol sy’n gyfrifol am y canlyniad.