Y system dreulio
Mae’r tabl yn dangos y prif adeileddau ac organau cysylltiedig y llwybr ymborthY llwybr treulio o’r geg i’r anws. (neu’r coludd) dynol, a’u swyddogaethau.
| Ffurfiad | Swyddogaeth |
| Ceg | Lle mae bwyd yn mynd i’r llwybr ymborth ac mae treuliad yn dechrau wrth i’r ensym amylas yn y poer ddechrau treulio startsh |
| Oesoffagws | Tiwb cyhyrog sy’n symud bwyd wedi’i amlyncu i’r stumog |
| Stumog | Organ gyhyrog lle mae treulio’n parhau. Mae proteas yn cael ei secretu i ddechrau treulio proteinau |
| Pancreas | Cynhyrchu’r ensymau treulio carbohydras, proteas a lipas, Mae’r ensymau’n cael eu secretu o’r fan hon i’r coluddyn bach |
| Afu/Iau | Cynhyrchu bustl a’i secretu i goden y bustl i’w storio |
| Coden y bustl | Storio bustl cyn ei ryddhau i ran gyntaf y coluddyn bach |
| Dwythell y bustl | Mynd â bustl o goden y bustl i ran gyntaf y coluddyn bach |
| Coluddyn bach | Lle caiff bwyd ei gymysgu ag ensymau treulio a bustl, a lle caiff bwyd wedi’i dreulio ei amsugno i’r gwaed |
| Coluddyn mawr | Lle caiff dŵr ei adamsugno |
| Anws | Lle mae carthion yn gadael y llwybr ymborth |
| Ffurfiad | Ceg |
|---|---|
| Swyddogaeth | Lle mae bwyd yn mynd i’r llwybr ymborth ac mae treuliad yn dechrau wrth i’r ensym amylas yn y poer ddechrau treulio startsh |
| Ffurfiad | Oesoffagws |
|---|---|
| Swyddogaeth | Tiwb cyhyrog sy’n symud bwyd wedi’i amlyncu i’r stumog |
| Ffurfiad | Stumog |
|---|---|
| Swyddogaeth | Organ gyhyrog lle mae treulio’n parhau. Mae proteas yn cael ei secretu i ddechrau treulio proteinau |
| Ffurfiad | Pancreas |
|---|---|
| Swyddogaeth | Cynhyrchu’r ensymau treulio carbohydras, proteas a lipas, Mae’r ensymau’n cael eu secretu o’r fan hon i’r coluddyn bach |
| Ffurfiad | Afu/Iau |
|---|---|
| Swyddogaeth | Cynhyrchu bustl a’i secretu i goden y bustl i’w storio |
| Ffurfiad | Coden y bustl |
|---|---|
| Swyddogaeth | Storio bustl cyn ei ryddhau i ran gyntaf y coluddyn bach |
| Ffurfiad | Dwythell y bustl |
|---|---|
| Swyddogaeth | Mynd â bustl o goden y bustl i ran gyntaf y coluddyn bach |
| Ffurfiad | Coluddyn bach |
|---|---|
| Swyddogaeth | Lle caiff bwyd ei gymysgu ag ensymau treulio a bustl, a lle caiff bwyd wedi’i dreulio ei amsugno i’r gwaed |
| Ffurfiad | Coluddyn mawr |
|---|---|
| Swyddogaeth | Lle caiff dŵr ei adamsugno |
| Ffurfiad | Anws |
|---|---|
| Swyddogaeth | Lle mae carthion yn gadael y llwybr ymborth |
Mae bwyd yn cael ei dorri’n ddarnau mân yn y geg trwy ei gnoi. Dyma enghraifft o dreuliad mecanyddol. Mae’r dannedd yn torri a malu’r bwyd, ac mae’r darnau’n cymysgu â phoer i wneud pêl o fwyd, sef bolws. Mae hwn yna’n cael ei lyncu a’i gludo i lawr yr oesoffagws drwy gyfrwng peristalsis.
Peristalsis
Mae bwyd yn cael ei symud trwy’r system dreulio gan broses o’r enw peristalsisCyfangiadau cyhyrog tebyg i donnau ym mur llyfn y perfedd sy’n symud bwyd drwy’r llwybr ymborth.. Mae’r cyhyrau yn yr oesoffagws yn cyfangu uwchben y bolws i wthio bwyd i lawr yr oesoffagws.
Mae’r cyhyrau’n gweithio gyda’i gilydd i gynhyrchu cyfangiadau sy’n debyg i donnau. Maen nhw’n gwneud symudiadau sy’n gwasgu a gwthio’r bolws drwy’r coludd.
Yn y stumog
Mae’r stumog yn cynhyrchu asid hydroclorig. Mae’n lladd llawer o micro-organebEnw arall ar microb. Mae’n ficrosgopig ac yn organeb, megis firws neu bacteria, neu ffwng megis burum. niweidiol sy’n gallu cael eu hamlyncu gyda’r bwyd. Mae’r ensymau yn y stumog ar eu gorau dan amodau asidigpH is na 7. gyda pH isel. Mae treuliad protin yn dechrau yma.
Bustl
Ar ôl bod yn y stumog, mae’r bwyd yn teithio i’r coluddyn bach. Mae’r ensymau yn y coluddyn bach ar eu gorau dan amodau alcalïaiddpH uwch na 7. – ond mae’r bwyd yn asidig ar ôl bod yn y stumog. Mae bustlSylwedd sy’n cael ei gynhyrchu yn yr afu/iau. Mae’n emwlsio brasterau i roi arwyneb mwy iddyn nhw fel bod lipas yn gallu gweithio. yn sylwedd sy’n cael ei gynhyrchu gan yr afu/iau ac yn cael ei storio yng nghoden y bustl. Mae’n mynd i lawr dwythell y bustl i’r coluddyn bach.
Mae bustl yn cael ei drosglwyddo i mewn i’r coluddyn bach lle mae’n gwneud dau beth:
- mae’n niwtraleiddioI'w wneud yn niwtral drwy ddileu unrhyw natur asidig neu alcalinaidd. yr asid – ac yn darparu’r amodau alcalinaidd priodol ar gyfer y coluddyn bach
- mae’n emwlsioTroi brasterau yn ddefnynnau bach i ddarparu arwyneb mwy i’r ensym lipas barhau i weithio yn y broses dreulio. braster – troi defnynnau braster mawr yn llawer o ddefnynnau llai, gan ddarparu arwynebedd arwyneb mwy i’r ensymau lipas weithio arno
Amsugniad
Amsugniad yw symudiad moleciwlau bwyd wedi’u treulio drwy fur y coludd i mewn i’r gwaed.
Y coluddyn bach yw’r rhan lle mae bwyd wedi’i dreulio’n cael ei amsugno. Mae gan y coluddyn bach arwynebedd arwyneb mewnol mawr er mwyn i amsugniad ddigwydd yn gyflym ac yn effeithlon. Mae’r arwynebedd arwyneb hwn yn fawr oherwydd presenoldeb llawer o ymestyniadau bach tebyg i fysedd o’r enw filwsMae filws yn ymestyniad bach tebyg i flew sy'n gorchuddio leinin y coluddyn bach. Mae filysau'n helpu treuliad drwy gynyddu arwynebedd arwyneb y coludd yn sylweddol..
Mae’r cyflenwad gwaed da o gwmpas y filysau yn symud maetholion wedi’u hamsugno oddi yno’n gyflym, sy’n cynnal graddiant crynodiad serth fel bod mwy o faetholion wedi’u treulio yn gallu tryledu o’r coluddyn bach i mewn i’r gwaed.
Carthiad
Erbyn pen pellaf y coluddyn bach, mae’r defnydd sydd ar ôl yn y coludd yn cynnwys:
- dŵr
- bacteria (byw a marw)
- celloedd o leinin y coludd
- sylweddau anhydraul, ee cellwlosCarbohydrad. Mae’n ffurfio’r cellfur mewn celloedd planhigion. o gellfuriau planhigion
Mae’r coluddyn mawrRhan isaf y llwybr ymborth (perfedd) lle mae dŵr yn cael ei amsugno ac ymgarthion yn cael eu cynhyrchu. yn amsugno’r rhan fwyaf o’r dŵr sydd ar ôl. Mae hyn yn gadael deunydd gwastraff lled-solid, sef yr ymgarthion. Mae carthiadY broses o basio gweddillion bwyd nad ydyn nhw wedi eu treulio, fel ymgarthion, drwy’r anws. yn digwydd wrth i’r ymgarthion hyn adael y corff trwy’r anws.