Y plât bwyta’n iach
Mae deiet cytbwys yn un sy’n cynnwys yr holl gydrannau, yn y cyfraddau cywir, i gynnal iechyd da.
Mae’r plât bwyta’n iach yn dangos pa gyfrannedd o bob cydran sydd angen i ni eu bwyta bob dydd er mwyn cael deiet cytbwys.

Dylai deiet cytbwys gynnwys y gyfrannedd gywir o garbohydrad, protein, lipid, fitaminau, mwynau, dŵr a ffibr deietegol.
Gofynion egni
Mae faint o egni sydd ei angen arnom yn amrywio. Mae hyn yn dibynnu ar y ffactorau canlynol:
- oed
- lefelau gweithgarwch
- beichiogrwydd
Oed
Mae’r egni sydd ei angen arnom yn tueddu i gynyddu wrth i ni dyfu’n oedolion.
| Oed mewn blynyddoedd | Gofynion egni dyddiol mewn kJ |
| 0 (newydd-eni) | 2,000 |
| 2 | 5,000 |
| 6 | 7,500 |
| 13 (merch) | 9,000 |
| 13 (bachgen) | 11,000 |
| 16 (merch) | 9,000 |
| 16 (bachgen) | 12,000 |
| Oed mewn blynyddoedd | 0 (newydd-eni) |
|---|---|
| Gofynion egni dyddiol mewn kJ | 2,000 |
| Oed mewn blynyddoedd | 2 |
|---|---|
| Gofynion egni dyddiol mewn kJ | 5,000 |
| Oed mewn blynyddoedd | 6 |
|---|---|
| Gofynion egni dyddiol mewn kJ | 7,500 |
| Oed mewn blynyddoedd | 13 (merch) |
|---|---|
| Gofynion egni dyddiol mewn kJ | 9,000 |
| Oed mewn blynyddoedd | 13 (bachgen) |
|---|---|
| Gofynion egni dyddiol mewn kJ | 11,000 |
| Oed mewn blynyddoedd | 16 (merch) |
|---|---|
| Gofynion egni dyddiol mewn kJ | 9,000 |
| Oed mewn blynyddoedd | 16 (bachgen) |
|---|---|
| Gofynion egni dyddiol mewn kJ | 12,000 |

Mae anghenion egni oedolion yn disgyn wrth iddyn nhw heneiddio. Er enghraifft, mae angen tua 17 y cant yn llai o egni yn eu deiet ar bobl yn eu 50au na phobl yn eu 30au.
Lefelau gweithgarwch
Mae pobl sy’n weithgar ac actif yn dueddol o fod angen mwy o egni na phobl sy’n eisteddogRhywun sy’n gwneud ychydig iawn o weithgaredd corfforol, os o gwbl, yn ei fywyd bob dydd.. Er enghraifft, efallai y bydd angen 10,000 kJ y dydd ar oedolyn sy’n gweithio mewn swyddfa, ond efallai y bydd angen 15,000 kJ y dydd ar weithiwr llaw.
Beichiogrwydd
Yn gyffredinol, po fwyaf ydy màsSwm y mater sydd mewn gwrthrych. Mae màs yn cael ei fesur mewn cilogramau (kg)., person, po fwyaf o egni fydd ei angen arnyn nhw. Mae dynion yn dueddol o fod angen mwy o egni na menywod ac mae anghenion egni menyw yn cynyddu pan fydd hi’n feichiog. Mae hyn am ei bod hi’n cario rhagor o fàs.
Yr egni sydd mewn bwyd
Mae’r egni sydd mewn bwyd yn cael ei fesur trwy ddefnyddio dull syml – calorimedregMesur faint o wres y mae proses yn ei ddefnyddio neu yn ei greu, fel llosgi tanwydd..
Calorimedreg
I wneud yr arbrawf hwn, rhaid i ti:
- arllwys 10 cm3 o ddŵr oer i mewn i diwb berwi
- cofnodi tymheredd y dŵr wrth gychwyn
- cofnodi màs y sampl bwyd
- gwresogi’r bwyd mewn fflam Bunsen nes ei fod yn mynd ar dân
- cynhesu’r dŵr gan ddefnyddio’r fflam o’r bwyd sy’n llosgi
- cofnodi tymheredd terfynol y dŵr
Cyfrifiadau
Cyfrifa’r egni sydd wedi trosglwyddo i’r dŵr gan ddefnyddio’r hafaliad canlynol:
\(\text{egni sy’n cael ei drosglwyddo (J) =}\)
\( ~\frac{\text{màs y dŵr (g)}\times 4.2~\text{J/g~}{^\circ\text{C}}\times\text{cynnydd tymheredd~} {\text{(}{^\circ\text{C)}}}}{\text{màs y bwyd (g)}}\)
Question
Mae dwy dafell gras yn cael eu profi i weld pa un sy’n darparu’r mwyaf o egni o bob gram.
Mae 0.7 g o dafell gras A yn cael ei losgi ac mae’n cynyddu tymheredd 10 cm3 o ddŵr 15°C.
Mae 0.5 g o dafell gras B yn cael ei losgi ac mae’n cynyddu tymheredd 10 cm3 o ddŵr 20°C.
Defnyddia’r hafaliad i gyfrifo faint o egni sydd yn y ddau sampl. Os yw’r ateb yn fwy na 1,000 o jouleau, dylech chi fynegi’r ateb mewn cilojouleau: 1,000 J = 1 kJ.
Sylwer - mae màs 1 cm3 o ddŵr yn 1 g.
\(\text{egni sy’n cael ei drosglwyddo (J) =}\)
\(~\frac{\text{màs y dŵr (g)}\times 4.2~\text{J/g~}{^\circ\text{C}}\times\text{cynnydd tymheredd~} {\text{(}{^\circ\text{C)}}}}{\text{màs y bwyd (g)}}\)
Tafell gras A
\(\frac{10\times4.2\times15}{0.7}{~=~900\text{ J/g~neu~}0.9\text{~kJ/g}}\)
Tafell gras B
\(\frac{10\times4.2\times20}{0.5}{~=~1,680\text{~J/g~neu~}1.68\text{~kJ/g}}\)
Tafell gras B sy’n cynnwys y mwyaf o egni.