Y system dreulio mewn bodau dynolPrawf teg

Dylid bwyta deiet cytbwys sy’n addas i’n hoedran a’n ffordd o fyw. Gall bwyta gormod arwain at ordewdra. Rhaid treulio maetholion cyn y gallwn eu hamsugno a’u defnyddio.

Part ofBiolegCelloedd, systemau organau ac ecosystemau

Prawf teg

Wrth gymharu gwahanol fwydydd, mae’n bwysig gwneud prawf teg.

Mae angen cadw llawer o newidynnau yn gyson:

  • cyfaint y dŵr
  • màs y bwyd
  • pellter y fflam oddi wrth y tiwb berwi

Gall canlyniadau’r arbrawf fod yn wallus oherwydd:

  • mae hi’n anodd cadw pellter cyson rhwng y bwyd sy’n llosgi a’r tiwb, sy’n amrywio colled gwres i’r amgylchedd
  • mae hi’n anodd lleihau colled gwres wrth drosglwyddo’r bwyd sy’n llosgi o’r fflam i’r tiwb
  • yn y dull hwn, mae hi’n bosibl bod y dafell yn llosgi’n anghyflawn gan olygu bod mesuriad y màs sy’n llosgi yn anghywir

Un gwelliant posibl fyddai defnyddio calorimedr bom:

  • mae’r sampl yn llosgi mewn siambr wedi’i selio i leihau colledion gwres i’r amgylchedd
  • mae siambr y sampl wedi’i hamgylchynu â siambr arall o ddŵr, ac rydyn ni’n mesur newid tymheredd y dŵr
  • mae’r sampl yn llosgi mewn ocsigen pur i sicrhau ei fod yn hylosgi’n gyflawn
Calorimedr bom. Mae sampl yn llosgi mewn ocsigen pur mewn siambr wedi'i selio i leihau colled gwres i'r amgylchedd. Mae'r siambr wedi'i hamgylchynu â dŵr ac mae newid tymheredd y dŵr yn cael ei fesur.