Y system resbiradol mewn bodau dynolYsmygu

Adwaith cemegol sy’n rhyddhau egni o fwyd yw resbiradaeth. Mae’r system resbiradol yn cyfnewid y nwyon sy’n cymryd rhan yn adwaith resbiradaeth.

Part ofBiolegCelloedd, systemau organau ac ecosystemau

Ysmygu

Effeithiau ysmygu

Llun agos o becyn sigaréts yn dangos y rhybudd ‘Smoking kills’.
Figure caption,
Mae rhybuddion megis ‘Smoking kills’ yn cael eu defnyddio i atal pobl rhag ysmygu

Mae ysmygu yn gallu achosi clefyd yr ysgyfaint, clefyd y galon a gwahanol ganserau.

Nicotin ydy’r sylwedd caethiwus mewn tybaco. Mae’n cyrraedd yr ymennydd yn gyflym ac yn creu dibyniaeth sy’n golygu bod pobl yn mynd yn gaeth i ysmygu.

Effeithiau ar y pibellau aer

Mae mwcws gludiog yn yr ysgyfaint yn trapio . Fel arfer, mae’r mwcws yn cael ei ysgubo allan o’r ysgyfaint gan y ar y sy’n leinio’r tracea, y a’r . Fodd bynnag, mae mwg sigaréts yn cynnwys cemegau niweidiol sy'n parlysu'r cilia hyn, gan arwain at grynhoad o fwcws a pheswch ysmygwr. Mae mwg yn llidio’r bronci, gan achosi broncitis.

Effeithiau ar yr alfeoli

Mae mwg yn niweidio muriau’r . Mae muriau’r alfeoli yn ymddatod ac yn uno â’i gilydd, gall ffurfio gofodau aer mwy na’r arfer. Mae hyn yn lleihau effeithlonrwydd , felly mae pobl sy’n dioddef clefyd yr ysgyfaint emffysema (math o COPD neu glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint) yn cludo llai o ocsigen yn eu gwaed ac yn ei chael yn anodd gwneud ymarfer ysgafn hyd yn oed.

Carbon monocsid

Mae carbon monocsid, CO, yn cyfuno â’r yng nghelloedd coch y gwaed, gan roi straen ar y galon a chynyddu’r risg o glefyd coronaidd y galon a strociau.

Canser yr ysgyfaint

Mae mwg tybaco’n cynnwys llawer o , gan gynnwys tar. Mae ysmygu’n cynyddu’r risg o ganser yr ysgyfaint, canser y geg, y gwddf a’r oesoffagws.

Trychiad drwy ysgyfaint iach a thrwy ysgyfaint ysmygwr, gyda dyddodion tar i’w gweld yn amlwg.
Image caption,
Trychiad drwy ysgyfaint iach a thrwy ysgyfaint ysmygwr, gyda dyddodion tar i’w gweld yn amlwg