O gymharu ag aer atmosfferig, mae aer sydd wedi ei allanadlu yn cynnwys:
llai o ocsigen
mwy o garbon deuocsid
mwy o anwedd dŵr
Mae cyfansoddiad aer sy’n cael ei fewnanadlu’n wahanol i aer sy’n cael ei allanadlu, oherwydd cyfnewid nwyonTrylediad nwyon, gan amlaf carbon deuocsid ac ocsigen yn yr alfeoli (codennau aer). yn yr alfeoli.
Cyfnewid nwyon yn yr ysgyfaint
Mae cyfnewid nwyon yn yr ysgyfaint yn digwydd yn yr alfeoliCodennau bach iawn yn yr ysgyfaint, lle mae nwy’n cael ei gyfnewid wrth anadlu.. Mae rhai o nodweddion alfeoli yn cynnwys:
muriau cul (trwch un gell yn unig) i leihau’r pellter tryledu
arwynebedd arwyneb mawr i gyfnewid cymaint â phosibl o nwyon
arwyneb llaith i hydoddi nwyon yn yr aer yn yr alfeoli fel eu bod nhw’n gallu tryledu ar draws muriau’r alfeoli
cyflenwad gwaed cyfoethog i gael gwared ar nwyon wedi tryledu a chynnal graddiant crynodiad ar gyfer mwy o drylediad
Mae Rhys allan o wynt ar ôl cerdded i’w cyrchfan gwersylla. Mae ei ap gwyddoniaeth, Alfred, yn ei helpu i anadlu’n iawn drwy esbonio’r broses o gyfnewid nwyon.