Anadlu
Mewn bodau dynol, mae aer yn mynd i mewn i’r corff drwy’r ceudod trwynol ac yn llifo i’r ffurfiadau canlynol yn y thoracs dynolYr asennau a rhan uchaf yr asgwrn cefn, a’r organau sydd yn y frest.:
- traceaY prif lwybr anadlu yn y system resbiradu, neu’r corn gwynt/pibell wynt, sy’n cysylltu’r ffaryncs a’r laryncs â’r ysgyfaint.
- broncwsBronci yw lluosog broncws. Y bronci yw’r ddau brif diwb aer yn yr ysgyfaint. (broncws chwith a dde)
- bronciolynBronciolynnau yw lluosog bronciolyn. Y tiwbynnau bach, canghennog, niferus y mae’r bronci’n isrannu iddyn nhw.
- alfeoliCodennau bach iawn yn yr ysgyfaint, lle mae nwy’n cael ei gyfnewid wrth anadlu.
Hefyd, mae angen y ffurfiadau canlynol ar gyfer awyru (y broses o symud aer i mewn ac allan o’r ysgyfaint):
- asennau
- cyhyrau rhyngasennol
- llengigLlen fawr o gyhyr rhwng y thoracs a'r ceudod abdomenol.
Mae’r aer sy’n mynd i mewn i’r ceudod trwynol yn llifo i lawr y tracea. Mae gan y tracea nifer o addasiadau:
- mae cylchoedd cartilag ym muriau’r tracea yn helpu i’w gadw ar agor
- mae epitheliwm ciliedig a chelloedd gobled yn glanhau’r aer cyn iddo gyrraedd yr ysgyfaint
Mae celloedd gobled yn cynhyrchu mwcws sy’n dal llwch, baw a bacteria i’w hatal nhw rhag mynd i’r ysgyfaint.
Blew bach yw cilia sy’n curo i wthio’r mwcws yn ôl i fyny’r tracea er mwyn i ni allu ei lyncu a’i ddinistrio yn y stumog
Yna, mae aer glân yn mynd i’r ddau broncwsBronci yw lluosog broncws. Y bronci yw’r ddau brif diwb aer yn yr ysgyfaint., ac un broncws yn mynd i bob ysgyfant. Mae’r bronci yn yr ysgyfaint yn rhannu’n diwbiau llai a llai o’r enw bronciolynBronciolynnau yw lluosog bronciolyn. Y tiwbynnau bach, canghennog, niferus y mae’r bronci’n isrannu iddyn nhw.. Mae’r rhain yn arwain at godennau aer microsgopig o’r enw alfeoliCodennau bach iawn yn yr ysgyfaint, lle mae nwy’n cael ei gyfnewid wrth anadlu..
Mewnanadlu
Wrth fewnanadlu:
- mae’r cyhyrau rhyngasennol yn cyfangu, gan dynnu’r cawell asennau i fyny a thuag allan
- mae’r llengig yn cyfangu, gan dynnu am i lawr
- mae cyfaint yr ysgyfaint yn cynyddu ac mae’r gwasgedd aer y tu mewn yn gostwng
- mae aer yn cael ei dynnu i mewn i’r ysgyfaint
Allanadlu
Wrth allanadlu:
- mae’r cyhyrau rhyngasennol yn ymlacio, gan dynnu’r cawell asennau i lawr ac i mewn
- mae’r llengig yn ymlacio, gan symud yn ôl i fyny
- mae cyfaint yr ysgyfaint yn gostwng ac mae pwysau’r aer y tu mewn yn cynyddu
- mae aer yn cael ei wthio allan o’r ysgyfaint
Image caption, Awyriad
Yr elfennau sy’n rhan o anadlu
Image caption, Y broses o fewnanadlu
Image caption, Y broses o allanadlu
1 of 3
Y model clochen
Gallwn ni fodelu proses awyru fel cyfres o newidiadau gwasgedd yn y thoracs gan ddefnyddio’r model clochen. Mae rhannau o’r model yn cynrychioli gwahanol rannau o’r system resbiradol, fel sydd wedi’i ddangos isod:
Mae’r model, sy’n aerglos, yn cynrychioli’r thoracs, a’r unig ffordd i aer fynd i mewn yw drwy’r tiwb gwydr, sy’n cynrychioli’r tracea.
Wrth i’r ddalen rwber gael ei thynnu i lawr mae cyfaint y glochen yn cynyddu, felly mae’r gwasgedd yn lleihau ac mae aer yn cael ei dynnu i mewn drwy’r tiwb gwydr gan enchwythu’r balwnau, sy’n cynrychioli’r ysgyfaint.
Mae nifer o bethau’n debyg ac yn wahanol rhwng y model a’r system resbiradol go iawn:
| Ffurfiad | Tebyg | Gwahanol |
| Tiwb gwydr/tracea | Gadael i aer fynd drwyddo, rhannu’n ddau | Mae gwydr yn galed ac yn anhyblyg yn wahanol i’r tracea sydd wedi ei orchuddio â chartilag |
| Clochen/ceudod y frest | Aerglos | Ddim yn gallu symud, mae’r asennau’n gallu symud i fyny a thuag allan i gynyddu cyfaint y thoracs |
| Balwnau/ysgyfaint | Gallu enchwythu a dadchwythu, yn elastig fel yr alfeoli | Mae’r balwnau’n fannau agored mawr ond mae’r ysgyfaint wedi’u gwneud o filiynau o alfeoli elastig unigol |
| Dalen rwber/llengig | Gallu cromennu i fyny i leihau’r cyfaint yn y glochen | Dim ond gwastadu mae’r llengig, dydy hi ddim yn cael ei thynnu i lawr fel y ddalen rwber |
| Ffurfiad | Tiwb gwydr/tracea |
|---|---|
| Tebyg | Gadael i aer fynd drwyddo, rhannu’n ddau |
| Gwahanol | Mae gwydr yn galed ac yn anhyblyg yn wahanol i’r tracea sydd wedi ei orchuddio â chartilag |
| Ffurfiad | Clochen/ceudod y frest |
|---|---|
| Tebyg | Aerglos |
| Gwahanol | Ddim yn gallu symud, mae’r asennau’n gallu symud i fyny a thuag allan i gynyddu cyfaint y thoracs |
| Ffurfiad | Balwnau/ysgyfaint |
|---|---|
| Tebyg | Gallu enchwythu a dadchwythu, yn elastig fel yr alfeoli |
| Gwahanol | Mae’r balwnau’n fannau agored mawr ond mae’r ysgyfaint wedi’u gwneud o filiynau o alfeoli elastig unigol |
| Ffurfiad | Dalen rwber/llengig |
|---|---|
| Tebyg | Gallu cromennu i fyny i leihau’r cyfaint yn y glochen |
| Gwahanol | Dim ond gwastadu mae’r llengig, dydy hi ddim yn cael ei thynnu i lawr fel y ddalen rwber |