Resbiradaeth anaerobig
Does dim angen ocsigen ar resbiradaeth resbiradaeth aerobigResbiradaeth sydd angen ocsigen., yn wahanol i resbiradaeth aerobig. Dyma’r broses o ryddhau ychydig bach o egni mewn celloedd drwy dorri sylweddau bwyd i lawr yn absenoldeb ocsigen.
Resbiradaeth anaerobig mewn cyhyrau
Mae resbiradaeth anaerobig yn digwydd mewn cyhyrau wrth ymarfer yn galed.
\(\text{glwcos} \rightarrow \text{asid lactig + egni ar ffurf ATP}\)
Dydy glwcosSiwgr syml sy'n cael ei wneud gan y corff o fwyd. Mae'n cael ei ddefnyddio gan gelloedd i wneud egni yn ystod resbiradaeth. ddim yn cael ei dorri i lawr yn llwyr, felly mae llawer llai o egni’n cael ei ryddhau nag yn ystod resbiradaeth aerobig.
Mae asid lactigCemegyn gwenwynig sy’n cael ei gynhyrchu yn ystod resbiradaeth anaerobig. yn crynhoi yn y cyhyrau wrth ymarfer yn galed. Mae angen ocsidio Sylweddau cemegol yn cael eu ocsideiddio drwy ychwanegu ocsigen, cael gwared hydrogen neu gael gwared electronau. yr asid lactig i garbon deuocsid a dŵr yn ddiweddarach.
Mae creu asid lactig (mae angen ocsigen i ddadelfennu hwn) yn cynhyrchu dyled ocsigenY cyfaint o ocsigen sydd ei angen i ocsidio’r asid lactig sy’n cael ei gynhyrchu yn ystod cyfnod o resbiradaeth anaerobig. Dyma’r rheswm ein bod yn parhau i anadlu’n ddwfn ar ôl ymarfer. mae angen ei ‘thalu’n ôl’ ar ôl gorffen gwneud ymarfer corff. Dyma pam rydyn ni’n dal i anadlu’n ddwfn am rai munudau ar ôl gorffen gwneud ymarfer corff.
Bydd cyfnod byr a dwys o ymarfer corff, fel rhedeg yn gyflym, yn cynhyrchu egni yn anaerobig felly bydd yn cynhyrchu dyled ocsigen. Mae hyn oherwydd bod eich corff wedi rhyddhau egni heb yr ocsigen y byddai wedi ei ddefnyddio fel arfer wrth wneud ymarfer llai dwys fel rhedeg yn araf a chyson.
Y gwahaniaeth rhwng yr ocsigen sydd ei angen ar y corff yn ystod y cyfnod o redeg yn gyflym, a’r hyn mae wedi llwyddo i’w gymryd i mewn, yw’r diffyg ocsigen.
Resbiradaeth aerobig v resbiradaeth anaerobig
Mae’r tabl yn crynhoi gwahaniaethau rhwng y ddau fath o resbiradaeth.
| Aerobig | Anaerobig | |
| Ocsigen | Angen | Dim angen |
| Torri glwcos i lawr | Cyflawn | Anghyflawn |
| Cynnyrch terfynol | Carbon deuocsid a dŵr | Celloedd anifeiliaid - asid lactig. Celloedd planhigion a burum - carbon deuocsid ac ethanol |
| Yr egni sy’n cael ei ryddhau | Swm cymharol fawr o bob moleciwl o glwcos | Swm cymharol fach o bob moleciwl o glwcos |
| Ocsigen | |
|---|---|
| Aerobig | Angen |
| Anaerobig | Dim angen |
| Torri glwcos i lawr | |
|---|---|
| Aerobig | Cyflawn |
| Anaerobig | Anghyflawn |
| Cynnyrch terfynol | |
|---|---|
| Aerobig | Carbon deuocsid a dŵr |
| Anaerobig | Celloedd anifeiliaid - asid lactig. Celloedd planhigion a burum - carbon deuocsid ac ethanol |
| Yr egni sy’n cael ei ryddhau | |
|---|---|
| Aerobig | Swm cymharol fawr o bob moleciwl o glwcos |
| Anaerobig | Swm cymharol fach o bob moleciwl o glwcos |
Question
Mewn resbiradaeth aerobig mae un moleciwl o glwcos yn rhyddhau 38 moleciwl o ATPAdenosin triffosffad yn Gymraeg, adenosine triphosphate yn Saseneg. Cemegyn egni uchel sy'n cyfnewid egni cemegol mewn celloedd.. Dim ond dau foleciwl o ATP sy'n cael eu rhyddhau drwy resbiradaeth anaerobig. O’i gymharu â resbiradaeth aerobig, pa ganran o’r ATP mae resbiradaeth anaerobig yn ei gynhyrchu?
2 ÷ 38 × 100 = 5%