Celloedd a symudiad ar draws cellbilenniGraddiant crynodiad

Mae pob peth byw wedi ei wneud o gelloedd, sy’n gwahaniaethu i gyflawni gwahanol swyddogaethau. Gall sylweddau symud i mewn ac allan o gell. Gweithreda ensymau fel catalyddion ym mhetabolaeth y gell.

Part ofBiolegCelloedd, systemau organau ac ecosystemau

Graddiant crynodiad

Er mwyn deall sut mae gronynnau neu folecylau yn symud ar draws cellbilen mae’n bwysig deall y syniad o grynodiadau a graddiannau ynddyn nhw.

Crynodiad

Pan gaiff ei hydoddi mewn dŵr, yr yw swcros a dŵr yw’r . Gyda’i gilydd maent yn ffurfio hydoddiant.

Po fwyaf o ronynnau sydd mewn cyfaint penodol, po fwyaf crynodedig yw’r gronynnau hynny.

Image gallerySkip image gallerySlide1 of 2, Diagram yn dangos crynodiad hydoddyn. Bicer llawn dŵr wedi'i labelu'n Hydoddiant un; Crynodiad hydoddyn isel; Crynodiad dŵr uchel. Gronynnau yn y bicer wedi'u labelu'n Hydoddyn., Hydoddiant un Crynodiad hydoddyn isel

Mewn hydoddiant, os yw crynodiad yr hydoddyn yn isel, mae crynodiad y dŵr yn uchel. Dŵr pur sydd â’r crynodiad dŵr uchaf.

Mae graddiant crynodiad yn bodoli pan fo ardal crynodiad uchel yn arwain at ardal crynodiad isel:

  • mae mynd o grynodiad uchel i isel yn mynd i lawr y graddiant crynodiad
  • mae mynd o grynodiad isel i uchel yn mynd yn erbyn y graddiant crynodiad