Celloedd a symudiad ar draws cellbilenniCludiant actif – Haen uwch yn unig

Mae pob peth byw wedi ei wneud o gelloedd, sy’n gwahaniaethu i gyflawni gwahanol swyddogaethau. Gall sylweddau symud i mewn ac allan o gell. Gweithreda ensymau fel catalyddion ym mhetabolaeth y gell.

Part ofBiolegCelloedd, systemau organau ac ecosystemau

Cludiant actif – Haen uwch yn unig

Cludiant actif yw’r term am foleciwlau sydd wedi hydoddi yn symud i mewn ac allan o gell trwy’r gellbilen, o ardal crynodiad is i ardal crynodiad uwch. Mae’r gronynnau’n symud yn erbyn , gan ddefnyddio egni sy’n cael ei ryddhau yn ystod .

Weithiau mae crynodiad moleciwlau wedi hydoddi yn uwch y tu mewn i’r gell na’r tu allan, ond am fod angen y moleciwlau hyn ar yr organeb, mae’n rhaid iddyn nhw gael eu hamsugno o hyd. Mae proteinau cludo yn casglu moleciwlau penodol ac yn mynd â nhw drwy’r gellbilen yn erbyn y graddiant crynodiad.

Diagram cludiant actif â'r labeli: Moleciwl cludo, Tu allan i'r gell, Tu mewn i'r gell a Cellbilen.

Mae enghreifftiau o gludiant actif yn cynnwys:

  • cymeriant gan gelloedd epithelaidd yn y coluddyn bach
  • mewnlifiad ïonau o ddŵr pridd i gelloedd gwreiddflew mewn planhigion

Oherwydd bod angen egni er mwyn i’r broses hon ddigwydd, bydd unrhyw beth sy’n atal y gell rhag cael ocsigen neu glwcos hefyd yn atal resbiradaeth. Heb resbiradaeth, does dim egni ar ffurf ATP yn cael ei ryddhau a dydy cludiant actif ddim yn gallu digwydd.

Wrth drafod trafnidiaeth i gyrraedd adref, mae Alfred, yr ap gwyddonol defnyddiol, yn dweud wrth Jamila a Megan popeth am gludiant actif

Cymharu trylediad, osmosis a chludiant actif

TrylediadOsmosisCludiant actif
Ar hyd raddiant crynodiad
Yn erbyn graddiant crynodiad
Angen egni
Sylwedd sy’n symudHydoddion wedi hydoddiDŵrHydoddion wedi hydoddi
NodiadauNwyon a nwyon wedi hydoddi yn tryledu hefydAngen pilen rannol athraiddAngen protein cludo
Ar hyd raddiant crynodiad
Trylediad
Osmosis
Cludiant actif
Yn erbyn graddiant crynodiad
Trylediad
Osmosis
Cludiant actif
Angen egni
Trylediad
Osmosis
Cludiant actif
Sylwedd sy’n symud
TrylediadHydoddion wedi hydoddi
OsmosisDŵr
Cludiant actifHydoddion wedi hydoddi
Nodiadau
TrylediadNwyon a nwyon wedi hydoddi yn tryledu hefyd
OsmosisAngen pilen rannol athraidd
Cludiant actifAngen protein cludo