Celloedd a symudiad ar draws cellbilenniGwahaniaethu

Mae pob peth byw wedi ei wneud o gelloedd, sy’n gwahaniaethu i gyflawni gwahanol swyddogaethau. Gall sylweddau symud i mewn ac allan o gell. Gweithreda ensymau fel catalyddion ym mhetabolaeth y gell.

Part ofBiolegCelloedd, systemau organau ac ecosystemau

Gwahaniaethu

Mae organebau amlgellog yn dechrau bywyd fel un gell wy wedi’i ffrwythloni, o’r enw . Mae gan y sygot gnewyllyn sy’n cynnwys set gyfan o enynnau. Pan mae’r sygot yn rhannu drwy gyfrwng mitosis, mae’r set gyfan o enynnau’n cael eu copïo ac mae’r broses hon yn parhau nes bod pelen o gelloedd o’r enw embryo yn ffurfio. Ar yr adeg hon, mae’r celloedd yn dechrau newid ac addasu ar gyfer swyddogaethau penodol. yw’r broses hon a genynnau sy’n rheoli’r broses.

Dyma rai celloedd arbenigol.

Mae nerfgell yn hir ac wedi’i hynysu â haen frasterog i gludo ysgogiadau trydanol o gwmpas y corff

Diagram yn dangos siâp nerfgell

Mae gan gell sberm gynffon fel ei bod hi’n gallu nofio at yr wy

Diagram yn dangos siâp cell sberm

Mae cell balis yn llawn cloroplastau ar gyfer ffotosynthesis

Diagram yn dangos siâp cell balis

Mae cell sylem yn diwb gwrth-ddŵr hir, tenau tebyg i welltyn, sy’n cludo dŵr o wreiddiau planhigyn i’r dail

Diagram yn dangos siâp celloedd sylem

Mae gan gelloedd coch y gwaed siâp deugeugrwm, does ganddynt ddim cnewyllyn ac maent yn cynnwys haemoglobin i gludo ocsigen o gwmpas y corff

Diagram yn dangos siâp celloedd coch y gwaed

Celloedd, meinweoedd ac organau

Mae celloedd sy’n cyflawni swyddogaethau tebyg yn cael eu grwpio gyda’i gilydd mewn meinweoedd. Yr enw ar gasgliad o wahanol feinweoedd sy’n cyflawni swyddogaeth benodol yw organ . Yr enw ar lawer o wahanol organau sy’n gweithio gyda’i gilydd i gyflawni swyddogaethau penodol yw system organau. Mae systemau organau’n gweithio gyda’i gilydd i ffurfio organeb.

Diagram o hierarchaeth celloedd, meinweoedd, organau, systemau organau ac organebau, yn y drefn honno.