Celloedd a symudiad ar draws cellbilenniTrylediad

Mae pob peth byw wedi ei wneud o gelloedd, sy’n gwahaniaethu i gyflawni gwahanol swyddogaethau. Gall sylweddau symud i mewn ac allan o gell. Gweithreda ensymau fel catalyddion ym mhetabolaeth y gell.

Part ofBiolegCelloedd, systemau organau ac ecosystemau

Trylediad

Trylediad yw symudiad gronynnau o fan â chrynodiad uchel i fan â chrynodiad isel, ac mae’n un o’r ffyrdd mae sylweddau’n gallu symud ar draws y gellbilen, i mewn neu allan o’r gell.

Mae gronynnau’n tryledu i lawr . yw’r broses hon.

Image gallerySkip image gallerySlide1 of 3, Bicer llawn dŵr. Lwmp porffor yng ngwaelod y bicer wedi'i labelu'n Grisialau potasiwm permanganad., Arbrawf trylediad Mae potasiwm permanganad yn cael ei roi mewn bicer o ddŵr.

Enghreifftiau o drylediad mewn organebau byw

Mae cynhyrchion treuliad, wedi eu hydoddi mewn dŵr, yn gallu pasio trwy fur y coluddyn bach trwy drylediad. Mae eu crynodiad yn uwch yn y coluddyn bach nag ydy eu crynodiad yn y gwaed, felly mae graddiant crynodiad o’r coluddyn i’r gwaed.

Mae ocsigen a charbon deuocsid, wedi eu hydoddi mewn dŵr, yn cyfnewid trwy drylediad yn yr ysgyfaint:

  • mae ocsigen yn symud i lawr graddiant crynodiad o’r aer yn yr i’r gwaed
  • mae carbon deuocsid yn symud i lawr graddiant crynodiad o’r gwaed i’r aer yn yr alfeoli

Dim ond tra bo graddiant crynodiad yn bodoli y bydd y sylweddau wedi hydoddi yn parhau i dryledu.

Mae llif gwaed yn symud ocsigen oddi wrth yr ysgyfaint yn gyson. Mae hyn yn helpu i gynnal y graddiant crynodiad.

Nwy yn cyfnewid yn yr ysgyfaint yn yr alfeoli

Diagram yn dangos gwaed deocsigenedig yn mynd i'r alfeoli a gwaed ocsigenedig yn gadael drwy'r ochr arall.