Sgript a gwaith byrfyfyrYmarfer dy sgiliau byrfyfyr
Mae'n bosib defnyddio gwaith byrfyfyr ar y pryd ac wedi ei ymarfer i greu cynnwys newydd. Galli di ymchwilio i themâu mewn drama ac arbrofi gydag arddulliau wrth greu sgriptiau a chymeriadau newydd.
Ateba’r cwestiwn yna cymhara dy ateb â’r ateb enghreifftiol.
Question
Dewisa un o’r syniadau a awgrymwyd eisoes a meddylia am ddarn byrfyfyr ar gyfer grŵp o gymeriadau o’r ystâd yn y ddrama Mwnci ar Dân sydd wedi dod ynghyd i siarad am eu tlodi. Maen nhw’n penderfynu gwneud rhywbeth yn ei gylch. Rho’r datganiad hwn yng nghanol diagram corryn a meddylia am ffyrdd y gallet ti ddatblygu gwaith byrfyfyr.