Defnyddio themâu o’r ddrama
Shell
Wedes di bo ti isie teulu!Mwnci
Ond wi ddim isie bod y tad ydw i? Ni’n rhy ifanc Shell.Shell
Beth am y babi?Mwnci
Wi’n seino lan. Wi’n neud e i fi. Gwna di’r peth iawn i ti.Shell
Beth?Mwnci
Ffonia rhywle. I dunno. Sorta fe. Tisie bywyd, yeah?Ieuenctid, dianc o gyfrifoldeb a delio â chanlyniad gweithgareddau ydy’r themâu yn y darn uchod. Gallet ti wneud gwaith byrfyfyr ar yr elfennau canlynol ar y themâu hyn:
- dwy wraig ifanc yn sgwrsio â’i gilydd am y beichiogrwydd digroeso
- dau ddyn ifanc yn trafod y beichiogrwydd digroeso ac ateb posibl i’r broblem
- golygfa fwlio ble caiff y ferch feichiog ei gwatwar gan ei chyfoedion
- golygfa gyda gweithiwr cymdeithasol neu riant a’r ddau berson ifanc yn wynebu’r beichiogrwydd digroeso
Dulliau byrfyfyr i’w defnyddio wrth ymarfer
Hyd yn oed os byddi di’n defnyddio sgript, gall gwaith byrfyfyr fod yn ffordd wych o ddarganfod pethau amdani nad oeddet ti wedi eu sylweddoli o’r blaen. Mae’n ffordd ragorol hefyd o roi rhyddid i actorion neu roi bywyd newydd i olygfa ddiflas. Rho gynnig ar rai o’r technegau hyn:
Tynnu cymeriadau allan o’u cyd-destun
Beth sy’n digwydd os byddi di’n gafael yn y cymeriadau a’u gosod mewn lleoliad neu amser gwahanol? Rho gynnig ar waith byrfyfyr mewn lleoliad rhyfedd megis llong ofod neu long danfor. Os hoffet ti fwy o syniadau rho gip ar Strategaethau ymchwilio.
Defnyddio barddoniaeth
Rho gynnig ar fyrfyfyrio drwy siarad mewn rhythm neu odl. Gall taflu pêl o actor i actor i newid cyflymder helpu gyda hyn. Beth am ddefnyddio cwpledi sy’n odli? Mae hyn yn gorfodi’r actor i feddwl mewn ffordd wahanol a defnyddio geiriau na fydden nhw’n eu hystyried fel arfer.