Sgript a gwaith byrfyfyrGwaith byrfyfyr llwyddiannus

Mae'n bosib defnyddio gwaith byrfyfyr ar y pryd ac wedi ei ymarfer i greu cynnwys newydd. Galli di ymchwilio i themâu mewn drama ac arbrofi gydag arddulliau wrth greu sgriptiau a chymeriadau newydd.

Part ofDramaGwaith sgript

Gwaith byrfyfyr llwyddiannus

I ddechrau...

Paid byth â ‘rhwystro’ neb. Mae hyn yn golygu na ddylet ti wrthod syniad y bydd actor arall yn ei daflu atat ti ond ymchwilia drwy ymateb iddo yn dy rôl. Yr allwedd i waith byrfyfyr llwyddiannus yw bod pob actor yn derbyn yn hytrach na rhwystro syniadau actorion eraill.

Os oes gen ti syniad gwahanol am y trywydd yr hoffet ti i’r olygfa ei ddilyn, ond nad wyt ti’n gallu ymateb i syniadau newydd ac ymateb yn y foment, yna efallai y gwnei di ddarganfod rhywbeth diddorol na wnest di feddwl amdano cyn hynny.

Cofia…

Yn olaf…

Gad fynd. Ceisia ddiffodd y rhan honno o dy ymennydd a allai dy feirniadu’n negyddol. Does dim ffodd gywir nac anghywir o ymchwilio’n ddigymell. Os wyt ti’n gallu bod yn ddychmygus a mwynhau’r broses yna creadigrwydd fydd y canlyniad. Mae’n bryd i roi cynnig ar syniadau newydd, pa mor rhyfedd neu hynod bynnag y gallen nhw ymddangos! Daw rhai o’r syniadau gorau yn sgil ‘camgymeriadau’.