Sgript a gwaith byrfyfyrYchwanegu arddull

Mae'n bosib defnyddio gwaith byrfyfyr ar y pryd ac wedi ei ymarfer i greu cynnwys newydd. Galli di ymchwilio i themâu mewn drama ac arbrofi gydag arddulliau wrth greu sgriptiau a chymeriadau newydd.

Part ofDramaGwaith sgript

Ychwanegu arddull

Rho gynnig ar fyrfyfyrio mewn arddull osodedig neu sy’n wahanol iawn i dy sgript wreiddiol neu’r darn dyfeisiedig. Gall hyn ryddhau’r gwaith a chynhyrchu syniadau newydd ar gyfer perfformio. Dyma rai enghreifftiau o’r genres y gallet ti eu hystyried:

  • arswyd gothig
  • opera sebon, ee yn arddull Pobol y Cwm
  • opera fawreddog
  • Saunders Lewis (clasurol gyda Chymraeg llenyddol)
  • dawns gyfoes / ddeongliadol
  • teledu plant
  • pantomeim (gyda chyfranogiad y gynulleidfa)

Neu gallet ti roi cynnig ar berfformio yn ôl arddull theatr sefydledig, megis Bertolt Brecht neu Konstantin Stanislavski.

Gwylia’r clip Saesneg hwn o’r National Theatre sy’n dangos cymeriad Ophelia o ddrama Hamlet yn cael ei phortreadu yn ôl arddull ‘Stanislavskaidd’