Sgript a gwaith byrfyfyrGwaith byrfyfyr gan ddefnyddio sgript fel ysgogiad

Mae'n bosib defnyddio gwaith byrfyfyr ar y pryd ac wedi ei ymarfer i greu cynnwys newydd. Galli di ymchwilio i themâu mewn drama ac arbrofi gydag arddulliau wrth greu sgriptiau a chymeriadau newydd.

Part ofDramaGwaith sgript

Gwaith byrfyfyr gan ddefnyddio sgript fel ysgogiad

Actor yn sefyll o flaen wal graffiti ac yn gwisgo bra pinc dros ei ddillad fel rhan o gynhyrchiad Arad Goch, Mwnci ar Dân
Image caption,
Emyr Bell yn perfformio yn Mwnci ar Dân, Arad Goch, 2008 LLUN: Andy Freeman/Arad Goch

Os oes sgript i weithio arni gen ti eisoes, mae gwaith byrfyfyr yn ffordd ardderchog o ymchwilio i’r syniadau a’r themâu sydd ynddi. Mae’n bosibl datblygu cymeriadau ymhellach ac ychwanegu gwaith newydd neu ehangu ar yr hyn sy’n bodoli eisoes.

Darllena’r darn hwn o’r ddrama Mwnci ar Dân gan Sera Moore Williams. Mae’r ddrama wedi ei gosod yn y presennol a’i lleoli mewn ystâd llawn graffiti ac mae’n ymchwilio i stori tri chymeriad cyferbyniol. Mae Hen yn gyn filwr 48 mlwydd oed sy’n dioddef o straen wedi trawma ac sy’n ceisio ailgydio yn ei berthynas â’i ferch ar ôl iddyn nhw golli cysylltiad. Mae Mwnci yn ei arddegau, yn 17 ac yn wrthryfelgar. Mae e, hefyd, wedi colli cysylltiad â’i dad ac mae’n breuddwydio am ymuno â’r fyddin. Mae Shell yn 15 ac yn dwyn o siopau. Mae hi mewn perthynas â Mwnci ac yn cadw ei beichiogrwydd yn gyfrinach. Meddylia am yr hyn mae’r cymeriadau’n ei ddweud ac yn ei weld. Wyt ti’n gallu nodi unrhyw faterion neu syniadau fyddai’n addas ar gyfer gwaith byrfyfyr testun?

Mwnci ar Dân
by Sera Moore Williams

Hen

Fi o’dd y tad gore’n y byd. [Wrth y tegan.] Ond weithiau ma’ pethe’n digwydd i newid dyn. [Curiad.] Methu timlo fel fi fod i dimlo. Ddim ers blynydde. No man’s land os licwch chi. Neb yn gallu achub fi. Ca’l gwared o’r atgofion sy’n llenwi ‘mhen i.

Gallet ti ddefnyddio’r darn yma fel ysbrydoliaeth ar gyfer gwaith byrfyfyr. Beth sy’n digwydd i Hen sy’n peri iddo ymbellhau oddi wrth ei deulu? Gallet ti ddangos y teulu’n datgymalu ar ôl iddo ddychwelyd o’r fyddin. Neu gallet ti ddramateiddio digwyddiad yn ystod ei gyfnod yn y fyddin a newidiodd ei bersonoliaeth. Gallet ti hefyd feddwl am waith byrfyfyr o gwmpas thema ymbellhad teuluol.