Mae'n bosib defnyddio gwaith byrfyfyr ar y pryd ac wedi ei ymarfer i greu cynnwys newydd. Galli di ymchwilio i themâu mewn drama ac arbrofi gydag arddulliau wrth greu sgriptiau a chymeriadau newydd.
Defnyddiodd The National Theatre waith byrfyfyr mewn ymarferion ar gyfer One Man Two Guvnors, sioe a enillodd sawl gwobr. Dyma Daniel Rigby, yn gwneud gwaith byrfyfyr. Sylwa ar y rhyddid sydd ganddo i archwilio syniadau newydd.