Arbrofi gyda statws
Gelwir lefel y pŵer neu’r dylanwad sydd gan gymeriad yn statws. Gallet ti gael canlyniadau diddorol (a chomig yn aml) drwy newid trefn y statws yn dy ddrama wrth i ti wneud gwaith byrfyfyr.
Dychmyga olygfa mewn swyddfa. Mae’r rheolwr gyfarwyddwr yn ceisio gwneud galwad ffôn pwysig. Fodd bynnag, mae’r glanhawr eisiau glanhau ei swyddfa. Beth sy’n digwydd os byddi di’n cyfnewid statws y glanhawr fel mai hwnnw ydy’r cymeriad mwyaf pwerus yn yr olygfa?
Ymarfer da arall ar gyfer statws ydy gwneud gwaith byrfyfyr pan nad ydy’r actorion yn ymwybodol o statws y cymeriadau eraill ond eu bod yn cael eu gorfodi i ymateb yn unol â’r cliwiau maen nhw’n eu cael. Mae cardiau chwarae’n arf defnyddiol wrth wneud hyn. Mae pob actor yn dewis cerdyn a rhaid iddo wneud gwaith byrfyfyr mewn rôl i gyd-fynd â’r cerdyn uchel neu isel a gafodd. Mae’r cyfarwyddwr, Max Stafford-Clark a chwmni theatr Out of Joint yn defnyddio cardiau’n rheolaidd i ymchwilio i statws a pherthynas yn ystod ymarferion.
Drama tri gair
Mae hwn yn ymarfer ble mae’r actorion yn gwneud gwaith byrfyfyr ond dim ond tri gair y gallan nhw ei ddweud ar y tro. Mae’n dda iawn ar gyfer ymchwilio i hanfod golygfa ac yn cael actorion i wirioneddol ganolbwyntio a’u gorfodi nhw i feddwl yn greadigol.
Gwaith byrfyfyr yn nhrefn yr wyddor
Y tro hwn mae’r actorion yn cael defnyddio gymaint o eiriau ag y maen nhw ei eisiau ond mae’n rhaid i’r llinellau o ddeialog ddechrau gyda llythrennau olynol yr wyddor.
Er enghraifft:
- A fedri di ddweud wrtha i os oes yna fysus i’r Bala o fan ‘ma?
- Bala, pam wyt ti eisiau mynd fan ‘na?
- Cadw hwn yn dawel ond dwi’n ceisio dianc…
- Dos o ma! Pwy sy’ ar dy ôl di? Ti’n dychmygu pethau!
- Ddoe roedd rhywun wedi dwyn ffeiliau o fy nghyfrifiadur…
- Esgob! Wyt ti’n ysbīwr?
Paid ag ofni defnyddio gwaith byrfyfyr i arbrofi a chreu cynnwys. Ambell waith y syniadau gorau ydy’r rhai sydd heb eu cynllunio.