Pwysigrwydd gwaith byrfyfyr
Mae Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru, yn credu’n gryf yng ngwerth gwaith byrfyfyr o sgript:
Mae gwaith byrfyfyr yn hanfodol wrth ymarfer ar gyfer cynhyrchiad theatr. Mae'n caniatáu i'r actor edrych y tu hwnt i'r testun, gan agor i fyny bob math o bosibiliadau a dewisiadau annisgwyl a diddorol wrth ddehongli sgript a dod â chymeriad yn fyw. Mae rhai actorion wrth eu bodd gyda gwaith byrfyfyr ond i eraill mae'n codi ofn dychrynllyd arnynt. Mae rhaglenni fel Whose line is it anyway? wedi rhoi enw drwg i waith byrfyfyr, oherwydd bod rhai bellach, yn anymwybodol, yn ceisio bod yn ddigrif wrth wneud gwaith byrfyfyr, ac mae hynny'n anffodus a dibwrpas (o safbwynt ymarfer ar gyfer llwyfannu drama). Y gyfrinach wrth wneud gwaith byrfyfyr yw cofio mai modd o ymchwilio, deffro'r dychymyg a rhyddhau'r actor o hualau'r testun yw gwaith byrfyfyr. Ymarfer yw hyn, fel ymarfer 'scales' i bianydd, sef rhywbeth y tu hwnt i ofynion uniongyrchol y testun (neu'r ddrama), ond sy'n caniatáu i'r actor wedyn fod yn fwy dewr a dychmygus wrth fynd i'r afael â'r testun.

Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru, yn gweithio gydag actorion LLUN: Theatr Genedlaethol Cymru/Warren Orchard