Cyllid personolCyllidebu

Trwy agor dy gyfrif banc dy hun neu drwy reoli dy arian yn llwyddiannus, byddi’n dysgu sut i ymdrin â dy gyllid personol yn ofalus a sicrhau dy fod yn gallu rheoli ad-daliadau ar fenthyciadau.

Part ofMathemateg RhifeddRhif

Cyllidebu

Mae cyllidebu’n ffordd o gynllunio dy arian er mwyn gwneud yn siŵr bod gen ti ddigon o arian i brynu’r eitemau rwyt ti eu heisiau. Efallai dy fod yn cynllunio parti pen-blwydd neu’n mynd i ŵyl.

Mae’n gallu bod yn syniad da i ysgrifennu rhestr o bopeth rwyt ti eu hangen neu eu heisiau a faint mae’r eitemau yn ei gostio. Yna gallet weld a oes gen ti ddigon o arian i brynu’r holl eitemau hynny.

Mae bob amser yn ddefnyddiol i orbrisio cost eitemau neu hyd yn oed ychwanegu yn dy gyllideb, rhag ofn i ti orwario.

Enghraifft

Casgliad o eiconau sy'n darlunio eitemau i'w pacio ar gyfer gŵyl

Mae mam Lexi wedi prynu tocynnau iddi fynd i ŵyl newydd yn Reading. Mae Lexi wedi bod yn cynilo arian am rai wythnosau ac mae’n bwriadu mynd i’r ŵyl am ddwy noson gyda’i ffrindiau. Mae wedi cynilo £300. Mae wedi ysgrifennu’r gyllideb ganlynol.

EitemCost
Esgidiau glaw£25
Dillad newydd£45
Tair fest newydd£10
Siocled£4.50
Bag teithio£50
Tocynnau trên (Abertawe–Reading Super Saver dwy ffordd)£36
Arian gwario£150
Pabell£65
Estyniadau gwallt£55
Esgidiau newydd£48
EitemEsgidiau glaw
Cost£25
EitemDillad newydd
Cost£45
EitemTair fest newydd
Cost£10
EitemSiocled
Cost£4.50
EitemBag teithio
Cost£50
EitemTocynnau trên (Abertawe–Reading Super Saver dwy ffordd)
Cost£36
EitemArian gwario
Cost£150
EitemPabell
Cost£65
EitemEstyniadau gwallt
Cost£55
EitemEsgidiau newydd
Cost£48

Mae Lexi wedi rhannu ei heitemau’n ddwy golofn.

Rhestr wirio ar gyfer gwersylla mewn gŵyl ag eitemau 'hanfodol' ac eitemau ychwanegol

Mae’n gobeithio bod ganddi ddigon o arian i brynu’r holl eitemau angenrheidiol a dwy eitem ychwanegol ar ben hynny. Mae ei ffrind Luc yn dweud na fydd hi’n gallu prynu dim o’i heitemau ychwanegol. Pwy sy’n gywir – Lexi neu Luc?

Rhestr yr eitemau angenrheidiol = 25 + 65 + 50 + 150 + 36 = £326. Felly, cyfanswm cost yr eitemau angenrheidiol yw £326 felly nid yw wedi cyllidebu digon ar gyfer ei heitemau angenrheidiol, heb sôn am y rhai ychwanegol. Mae hi £26 yn fyr. Mae’n ymddangos mai Luc oedd yn gywir!

Question

Poster ar gyfer prisiau gwersylla £20 y noson heb drydan, £25 y noson gyda thrydan

Mae Leon wedi cyllidebu £1,200 ar gyfer ei wyliau gwersylla. Hoffai aros yn y gwersyll am 12 noson ar safle gyda thrydan. Mae’n mynd i ddefnyddio unrhyw arian sydd ganddo dros ben fel arian gwario. Faint o arian gwario mae wedi ei gyllidebu fesul diwrnod?