Cyllid personolTâl a chyflog

Trwy agor dy gyfrif banc dy hun neu drwy reoli dy arian yn llwyddiannus, byddi’n dysgu sut i ymdrin â dy gyllid personol yn ofalus a sicrhau dy fod yn gallu rheoli ad-daliadau ar fenthyciadau.

Part ofMathemateg RhifeddRhif

Tâl a chyflog

Tâl

Os wyt ti’n cael dy dalu’n wythnosol, neu os yw dy arian yn cael ei gyfrifo ar sail nifer yr oriau rwyt ti’n weithio, rydyn ni’n dweud dy fod yn derbyn tâl. Mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n cael tâl yn cael eu talu ar gyfradd sefydlog am yr oriau maen nhw’n cael eu cyflogi. Os ydyn nhw’n gweithio mwy, efallai y bydden nhw’n cael eu talu ar gyfradd uwch. Mae hwn yn cael ei alw’n oramser.

Enghraifft

Tabl yn dangos cyflogau o Hyfforddai i Reolwr a goramser

Cwestiynau

Faint fydd rheolwr yn cael ei dalu os yw ar gytundeb i weithio wythnos 40 awr ond mae’n gweithio 48 awr yn lle hynny (heb gynnwys dydd Sul)?

Ateb

40 awr ar y gyfradd arferol: 40 × £13.50 = £540.

Tâl goramser fesul awr = 1.5 × £13.50 = £20.25.

Wyth awr ar y gyfradd goramser: 8 × £20.25 = £162.

Cyfanswm y tâl = £540 + £162 = £702.

Question

Gan ddefnyddio’r un tabl, beth fyddai cyfanswm tâl cynorthwyydd yn y storfa os yw’n gweithio wythnos 40 awr, yn ogystal ag wyth awr ar ddydd Sadwrn, a phedair awr ar ddydd Sul?

Cyflogau

Mae cyflogau’n ffordd arall o dderbyn yr arian rwyt ti’n ei ennill, fel arfer ar gyfer pobl broffesiynol megis athrawon. Mae’r arian yn cael ei dalu’n fisol ac nid yw’n newid. Mae’r swm rwyt ti’n cael dy dalu’n swm sefydlog bob blwyddyn, dim ots faint o oriau rwyt ti’n weithio.

Enghraifft

Dyma dabl o gyflogau athrawon. Am y pum mlynedd nesaf, mae’r llywodraeth wedi rhewi codiadau cyflog i 1%. Llenwa’r bylchau yn y tabl i ddangos y cyflogau sydd ar goll yn y flwyddyn gyntaf a’r ail.

Graddfa cyflogBlwyddyn bresennolBlwyddyn gyntafAil flwyddyn
M1£22,023£22,243.23£??????
M2£23,764£24,001.64£24,241.66
M3£25,675£25,931.75£26,191.07
M4£27,650£????????£28,205.77
M5£29,829£30,127.29£30,428.56
M6£32,187£32,508.87£32,833.96
Graddfa cyflogM1
Blwyddyn bresennol£22,023
Blwyddyn gyntaf£22,243.23
Ail flwyddyn£??????
Graddfa cyflogM2
Blwyddyn bresennol£23,764
Blwyddyn gyntaf£24,001.64
Ail flwyddyn£24,241.66
Graddfa cyflogM3
Blwyddyn bresennol£25,675
Blwyddyn gyntaf£25,931.75
Ail flwyddyn£26,191.07
Graddfa cyflogM4
Blwyddyn bresennol£27,650
Blwyddyn gyntaf£????????
Ail flwyddyn£28,205.77
Graddfa cyflogM5
Blwyddyn bresennol£29,829
Blwyddyn gyntaf£30,127.29
Ail flwyddyn£30,428.56
Graddfa cyflogM6
Blwyddyn bresennol£32,187
Blwyddyn gyntaf£32,508.87
Ail flwyddyn£32,833.96

Cyflog M1 yn yr ail flwyddyn

Mae angen i’r cyflog gynyddu 1%, i ganfod 1% rhaid i ti rannu â 100.

Cyfrifa 1% o’r cyflog blaenorol:

£22,243.23 ÷ 100 = 222.4323

Yna adia hwn at y cyflog blaenorol:

£22,243.23 + 222.4323 = £22,465.66 (i'r geiniog agosaf).

Cyflog M4 yn y flwyddyn gyntaf

Cyfrifa 1% o’r cyflog blaenorol:

£27,650 ÷ 100 = 276.50

Yna adia hwn at y cyflog blaenorol:

£27,650 + 276.5 = £27,926.50

Graddfa cyflogBlwyddyn bresennolBlwyddyn gyntafAil flwyddyn
M1£22,023£22,243.23£22,465.66
M2£23,764£24,001.64£24,241.66
M3£25,675£25,931.75£26,191.07
M4£27,650£27,926.50£28,205.77
M5£29,829£30,127.29£30,428.56
M6£32,187£32,508.87£32,833.96
Graddfa cyflogM1
Blwyddyn bresennol£22,023
Blwyddyn gyntaf£22,243.23
Ail flwyddyn£22,465.66
Graddfa cyflogM2
Blwyddyn bresennol£23,764
Blwyddyn gyntaf£24,001.64
Ail flwyddyn£24,241.66
Graddfa cyflogM3
Blwyddyn bresennol£25,675
Blwyddyn gyntaf£25,931.75
Ail flwyddyn£26,191.07
Graddfa cyflogM4
Blwyddyn bresennol£27,650
Blwyddyn gyntaf£27,926.50
Ail flwyddyn£28,205.77
Graddfa cyflogM5
Blwyddyn bresennol£29,829
Blwyddyn gyntaf£30,127.29
Ail flwyddyn£30,428.56
Graddfa cyflogM6
Blwyddyn bresennol£32,187
Blwyddyn gyntaf£32,508.87
Ail flwyddyn£32,833.96

Question

Mae Carwyn yn Rheolwr Digwyddiadau. Ei gyflog cychwynnol yw £25,000. Bob blwyddyn, mae ei gwmni’n cynyddu ei gyflog yn ôl y raddfa isod.

  • Am y tair blynedd gyntaf, cynnydd o £500 ar ddiwedd y flwyddyn.
  • Am y tair blynedd nesaf, cynnydd o £600 ar ddiwedd y flwyddyn.
  • Am y ddwy flynedd ganlynol, cynnydd o £700 ar ddiwedd y flwyddyn.

Llenwa’r tabl canlynol i ganfod cyflog Carwyn ar ôl 7 mlynedd.

BlwyddynCyflog
Diwedd Blwyddyn 1
Diwedd Blwyddyn 2
Diwedd Blwyddyn 3
Diwedd Blwyddyn 4
Diwedd Blwyddyn 5
Diwedd Blwyddyn 6
Diwedd Blwyddyn 7
BlwyddynDiwedd Blwyddyn 1
Cyflog
BlwyddynDiwedd Blwyddyn 2
Cyflog
BlwyddynDiwedd Blwyddyn 3
Cyflog
BlwyddynDiwedd Blwyddyn 4
Cyflog
BlwyddynDiwedd Blwyddyn 5
Cyflog
BlwyddynDiwedd Blwyddyn 6
Cyflog
BlwyddynDiwedd Blwyddyn 7
Cyflog