Benthyciadau
Ad-daliadau benthyciadau
Benthyciad yw pan fyddi di’n benthyg arian un ai gan fanc, cymdeithas adeiladu neu gwmni benthyg arian. Rhaid i bobl dalu llog ar ben swm yr arian maen nhw’n ei fenthyg. Mae hwn yn cael ei gyfrifo fel canran o faint maen nhw’n ei fenthyg. Yr hiraf rwyt ti’n ei gymryd i dalu’r benthyciad yn ôl, y mwyaf o log fydd yn rhaid i ti ei dalu.
Rwyt ti’n cyfrifo llog yn union yr un ffordd â wnei di gyda chyfrif cynilo, ond y tro hwn ti fydd yn rhoi’r arian i’r banc.
Enghraifft
Mae Ieuan yn y brifysgol ac mae arno angen cymryd benthyciad myfyriwr gwerth £9,000 yn ei flwyddyn olaf. Y gyfradd llog yw 3% AERCyfradd Cyfwerth Blynyddol, cyfradd llog sy'n cael ei chyfrifo gan gymryd adlog i ystyriaeth. ac mae’n gobeithio cael digon o arian er mwyn ei dalu yn ôl ar ôl tair blynedd. Faint fydd yn ddyledus ganddo ar ôl tair blynedd?
Bydd angen i ti ganfod 3% o’r swm gwreiddiol ac yna ei adio at y swm. Bydd hyn yn dangos i ti faint fydd yn ddyledus ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf, yna bydd angen i ti ganfod 3% o’r swm newydd a pharhau i wneud yr un peth eto.
Mae’r tabl isod yn dangos sut byddet ti’n cael dy ateb.
Ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf, bydd gan Ieuan y swm cyfan o arian (100%) a’r llog (3%). Felly bydd ganddo 103%, sy’n 1.03 fel degolyn. Dyma ein lluosyddY lluosydd yw'r rhif sy'n cael ei ddefnyddio i luosi pob rhif neu rifau..
Ar ôl y flwyddyn gyntaf, bydd arno: 9,000 × 1.03 = £9,270.
Yn yr ail flwyddyn bydd yn: 9,270 × 1.03 = £9,548.10.
Ar ôl y flwyddyn olaf bydd yn: 9,548.10 × 1.03 = £9,834.543 neu
9,000 × \(1.03^3\).
Gan ein bod yn sôn am arian, rhaid i ti dalgrynnu dy ateb i ddau le degol - £9,834.54.
Question
Mae Megan angen cymryd benthyciad o £6,000 gan ei bod eisiau mynd i deithio. Y gyfradd llog yw 5% AER. Faint o log fydd hi’n ei dalu ar ôl dwy flynedd?
£6,000 × 1.05 = £6,300.
£6,300 × 1.05 = £6,615.
Mae hyn yn rhoi cyfanswm yr arian, nid y llog.
Tynna’r swm gwreiddiol o arian o’r swm terfynol.
£6,615 – £6,000 = £615.