Cardiau credyd a hurbwrcas
Mae cardiau credyd yn ffordd arall o fenthyg arian. Bydd cwmnïau cardiau credyd fel arfer yn dy ddenu gyda llog 0% neu fargeinion llog isel i gychwyn, ond bydd y cynigion yn dod i ben ar ôl cyfnod arbennig. Mae’r cyfraddau llog sy’n rhaid eu talu wedyn fel arfer yn uchel ar gardiau credyd.
Dyma gynnig gan fanc am gerdyn credyd, sy’n amlinellu cynnig cychwynnol nodweddiadol.
Annwyl Carys,
Dyma’r amser perffaith i ti reoli dy arian, gyda’n cynnig am gerdyn credyd sydd â’r cyfnod trosglwyddo balans hiraf.
CIPOLWG AR Y BUDDIANNAU:
- Llog 0% am 12 mis o ddyddiad agor y cyfrif ar drosglwyddiadau balans sy’n cael eu gwneud yn y 90 diwrnod cyntaf (ffi 3% yn berthnasol)
- Llog 0% ar unrhyw beth rwyt ti’n ei brynu yn y 6 mis cyntaf ar ôl agor y cyfrif
I gadw dy gyfraddau arbennig, rhaid i ti aros o fewn dy derfyn credyd a thalu ar amser bob mis. Mae’r terfynau credyd a’r cyfraddau llog yn amrywio ac wedi eu selio ar dy amgylchiadau personol.
ENGHRAIFFT GYNRYCHIADOL:
Ar sail benthyg: £3,000 dros 12 mis
APR 20% newidiol cynrychiadol
Question
Pe bai Carys yn trosglwyddo £3,000 ar y fargen uchod ac yn llwyddo i dalu 12 taliad misol o £30 ond yna’n colli ei swydd, faint fyddai ar ei chyfrif erbyn diwedd yr ail flwyddyn? Cei gymryd yn ganiataol na wnaeth hi brynu unrhyw beth gyda’i cherdyn credyd.
Y swm ar gyfrif Carys erbyn diwedd yr ail flwyddyn fyddai £3,276.
I gyfrifo’r ateb, mae’n syniad da rhannu’r gwaith cyfrifo’n gamau llai:
1. Faint fydd y ffi?
3% o 3,000 yw \(\frac{3}{100}\) × 3,000 = £90.
Felly ei balans cychwynnol fydd £3,090 pan fydd yn agor ei chyfrif.
2. Faint mae hi wedi ei dalu’n ôl?
Mae Carys wedi talu’r swm canlynol yn ôl: 12 × £30 gan fod yna 12 mis mewn blwyddyn.
Mae wedi talu cyfanswm o £360.
Ei balans newydd nawr yw £3,090 - £360 = £2,730
3. Faint fydd y llog arno?
Dim byd am y flwyddyn gyntaf gan ei fod yn 0%.
Ar ôl y flwyddyn gyntaf, mae’r llog yn mynd yn ôl i 20%.
20% o 2,730.
10% = £273.
20% = £273 × 2 = £546.
Neu gyda chyfrifiannell:
\(\frac{20}{100} \times {2,730}~=~{546}\).
4. Faint sydd yng nghyfrif Carys erbyn diwedd yr ail flwyddyn?
Mae £2,730 yn ddyledus ganddi, a llog o £546, sy’n rhoi cyfanswm o £3,276.
Hurbwrcas
Mae hurbwrcas yn ffordd o brynu eitemau lle mae’r siop yn trefnu bod cwmni benthyciadau’n cymryd blaendal cychwynnol gen ti ac yna byddi’n talu’r gweddill mewn rhan-daliadau misol. Mae’r dull hwn o brynu eitemau fel arfer yn cael ei ddefnyddio er mwyn prynu eitemau drutach fel ceir a beiciau. Mae’n bwysig iawn i ni nodi bod y dull hwn o brynu eitem bob amser yn mynd i fod yn ddrutach na thalu am yr eitem i gyd ar unwaith, gan y byddi di bob amser yn talu rhyw fath o log neu gostau ychwanegol.
Enghraifft
Mae siop yn cynnig hurbwrcas ar werthiant beiciau. Y blaendal cychwynnol ym mhob achos yw £100 ac, yn dibynnu ar bris y beic, mae’r rhan-daliadau misol yn amrywio.
Cwestiynau
- Faint fyddet ti’n ei dalu am feic ar hurbwrcas, sy’n costio £480 dros 12 mis?
- Faint fyddet ti’n ei dalu am feic ar hurbwrcas sy’n costio £1,700 dros 24 mis?
- Faint oedd cost ychwanegol prynu’r beic ar hurbwrcas fel canran o’r pris gwreiddiol?
Atebion
1. Hurbwrcas = blaendal + cyfanswm y taliadau misol
= 100 + (40 × 12)
= £580
2. Hurbwrcas = blaendal + cyfanswm y taliadau misol
= 100 + (24 × 100).
= £2,500.
3. Gan edrych ar yr ateb o ran flaenorol y cwestiwn, gwelwn fod y pris hurbwrcas yn £2,500.
Os byddwn ni’n tynnu pris gwreiddiol y beic o’r swm hwn, byddwn yn gweld faint fydd y gost ychwanegol. £2,500 - £1,700 = £800.
Os bydden ni’n cyfrifo cost yr hurbwrcas fel canran o’r swm gwreiddiol:
\(\frac{800}{1,700}\) × 100 = 47%.
Rydyn ni’n canfod ein bod wedi talu 47% o log drwy brynu’r beic fel hyn.
Question
Mae’n bosib prynu teledu 40” sgrîn fflat un ai am £400 o arian parod neu ar hurbwrcas. Y cynnig ar hurbwrcas yw blaendal o £40 ac yna 12 rhan-daliad misol o £50. Faint fyddai’r teledu yn ei gostio ar hurbwrcas a faint yw’r gost ychwanegol ar gyfer hurbwrcas?
Cyfanswm pris hurbwrcas = blaendal + cyfanswm y taliadau misol.
= 40 + (12 × 50).
= £640.
Cost hurbwrcas: £640 - £400 = £240.
Bargeinion ffonau symudol
Mae bargeinion ffonau symudol (cynnwys Saesneg) yn aml yn gweithio ar gynllun tebyg i hurbwrcas. Mae’r benthyciad yn cael ei drefnu drwy’r cwmni ffonau symudol ond, yn ogystal â thalu am y ffôn, byddi hefyd yn talu tuag at y gwasanaethau maen nhw’n eu cynnig, ee data, munudau am ddim ayb. Weithiau bydd rhaid i ti dalu blaendal cychwynnol ac yna nifer penodol o daliadau misol.
Question
Mae Carwyn wedi lleihau ei opsiynau i’r ddwy fargen ganlynol ar gyfer ffôn symudol. Pa un yw’r rhataf dros gyfnod y cytundeb?
| Bargen 1 | Bargen 2 |
| Dim taliad cychwynnol | £40 cost gychwynnol |
| £25 y mis | £22.99 y mis |
| Cytundeb 24 mis | Cytundeb 24 mis |
| Bargen 1 | Dim taliad cychwynnol |
|---|---|
| Bargen 2 | £40 cost gychwynnol |
| Bargen 1 | £25 y mis |
|---|---|
| Bargen 2 | £22.99 y mis |
| Bargen 1 | Cytundeb 24 mis |
|---|---|
| Bargen 2 | Cytundeb 24 mis |
Bargen 1: 24 × £25 = £600.
Bargen 2: £40 + (24 × £22.99) = £591.76
Mae Bargen 2 yn rhatach o £8.24.