Gweithio gyda sgriptDeall arddull y ddrama

Pan rwyt ti'n gweithio gyda sgript, edrycha'n ofalus ar y lleoliad, y cyfarwyddiadau llwyfan a'r deialog. Mae ymchwilio'r rhannau a chefndir y ddrama yn dy helpu i ddeall bwriad y dramodydd.

Part ofDramaSgiliau perfformio

Deall arddull y ddrama

Os edrychwn ni ar ddrama Sera Moore Williams, Mwnci ar Dân, fel enghraifft, gallwn ni weld yn amlwg fod yr arddull wedi ei ddylanwadu gan Bertolt Brecht a Theatr Epig. Roedd Brecht am i gynulleidfaoedd aros yn heb fuddsoddiad emosiynol yn y ddrama. Byddai’n defnyddio amrywiaeth o ddyfeisiau neu dechnegau er mwyn atgoffa cynulleidfaoedd drwy gydol y ddrama eu bod yn gwylio theatr yn hytrach na bywyd go iawn i gyflawni hyn. Darllena Theatr Epig a Brecht er mwyn dysgu mwy.

Un o ddyfeisiau Theatr Epig ydy torri’r bedwaredd wal. Hon ydy’r wal ddychmygol rhwng yr actorion ac aelodau’r gynulleidfa sy’n eu cadw nhw’n wylwyr. Mae Mwnci’n torri’r bedwaredd wal yn rheolaidd gan siarad yn uniongyrchol â’r gynulleidfa:

Y’ch chi erio’d ‘di bod ar dân ishe gwneud rhywbeth? Y’ch chi? Wi wedi.
Mwnci ar Dân gan Sera Moore Williams

Dyfais annaturiolaidd arall yn y ddrama yw defnyddio . Caiff yr ôl-fflach gyntaf ei chyflwyno yn yr ail olygfa sy’n arwydd i’r gynulleidfa fod strwythur y ddrama’n un anllinellol.

Mae cymeriad y Cerddor hefyd yn annaturiolaidd. Ei rôl yw cyfeilio’r ddrama ar adegau penodol, fel arfer ar ddiwedd golygfa. Mae’r dramodydd wedi rhoi rhyddid i’r cwmni cynhyrchu ddewis yr offeryn a’r math o gerddoriaeth y bydd y Cerddor yn ei chwarae ar yr adegau hyn. Dydy'r cyfarwyddiadau llwyfan ddim yn pennu dim mwy na’r ffaith mai milwr ifanc o’r Ariannin ydy’r cymeriad ac y ‘gallai’ fod yn ysbryd, sydd unwaith eto’n elfen annaturiolaidd. Mae hyn yn golygu y bydd dehongliad pob cynhyrchiad yn wahanol.

Actor yn sefyll o flaen wal graffiti ac yn giwsgo bra pinc dros ei ddillad fel rhan o gynhyrchiad Arad Goch, Mwnci ar Dân
Image caption,
Emyr Bell yn perfformio yn Mwnci ar Dân, Arad Goch, 2008 LLUN: Andy Freeman/Arad Goch

Darganfod themâu allweddol

Yn yr olygfa gyntaf rydyn ni’n dysgu bod Hen yn gyn-filwr sydd wedi dioddef trawma, ei fod wedi ymladd yn Rhyfel y Falklands a’i fod yn ceisio cymodi â’i ferch sydd wedi ymddieithrio.

Rydyn ni’n dysgu hefyd am gyd-destun teitl y ddrama, Mwnci ar Dân. Dihiryn dwy ar bymtheg oed ydy Mwnci sydd wedi ennill y llysenw hwn drwy fod yn ‘fwnci direidus’. Ei uchelgais ydy ymuno â’r fyddin felly fe welwn ni gyferbyniad ar unwaith rhwng yr ymhonnwr ifanc a Hen, gŵr hŷn sydd wedi ei niweidio gan ryfel. Felly rydyn ni’n dysgu’n gynnar fod rhyfel a’i ganlyniadau’n thema bwysig yn y ddrama.

Cawn ein cyflwyno hefyd i Shell, cariad Mwnci. Mae hi’n amlwg yn caru Mwnci ac yn ceisio creu argraff arno drwy ddwyn dillad o siopau. Daw’n amlwg nad ydy ei mam o gwmpas rhyw lawer, ac fel Mwnci, mae’n cael rhwydd hynt i wneud beth mae’n ei ddymuno. Gyda Hen hefyd wedi dieithrio oddi wrth ei ferch, daw’n amlwg fod dieithrio teuluol hefyd yn thema allweddol arall yn y ddrama.

Byddai angen i ti fel cyfarwyddwr sicrhau dy fod wedi nodi’r themâu hyn fel rhai hanfodol i’r ddrama wrth edrych ar sgript i ddechrau. Dy gyfrifoldeb di fyddai gwneud yn siŵr bod dy actorion hefyd yn ymwybodol o’u pwysigrwydd wrth berfformio.