Herio confensiwn
Mae rhai cyfarwyddwyr yn gallu parchu amcanion yr awdur a herio confensiwn ar yr un pryd. Peter Brook ydy un o'r enwocaf am herio cynhyrchu confensiynol. Roedd ei arbrawf gyda drama Shakespeare, A Midsummer Night’s Dream ar gyfer National Theatre ym 1970 yn rhyfeddol. Roedd y cynhyrchiad arloesol hwn, sy’n dal i gael ei barchu hyd heddiw, yn cynnwys trapisiau, stiltiau a phlatiau’n troi. I Brook mae’r ddrama yno i’w pherfformio ond yr actorion sy’n dod â hi’n fyw ac mae hynny’n rhywbeth sy’n galw am newid, syniadau dynamig ac egni enfawr.

Actorion yng nghynhyrchiad Peter Brook o A Midsummer Night’s Dream, RSC, 1970 LLUN: Morris Newcombe/Arena PAL
Mae bywyd y ddrama’n dechrau ac yn diweddu yn y perfformiad. Dyma lle mae awdur, actorion a chyfarwyddwyr yn mynegi’r cyfan sydd ganddyn nhw i’w ddweud. Os oes dyfodol i’r digwyddiad, dim ond yn atgofion y rhai oedd yn bresennol, ac a gadwodd ran ohono yn eu calonnau, y gall hyn fod. Dyma’r unig le ar gyfer ein Breuddwyd. Does dim ffurf na dehongliad yn parhau am byth. Rhaid i ffurf ddod yn sefydlog am gyfnod byr, yna rhaid iddi fynd. Wrth i’r byd newid, bydd, a bydd rhaid cael Breuddwydion newydd cwbl anrhagweladwy.