Deialog
Fel arfer mae sgript yn dangos yn glir pa gymeriad sy’n dweud pa linellau ac ym mha drefn. Mae yna ddramâu lle mae hyn yn llai clir ac sy’n gadael i’r cyfarwyddwr benderfynu, ond gan amlaf mae’r dramodydd yn darparu’r manylion hyn.
Mae cyfarwyddiadau llwyfan yn cael eu cynnwys pan fydd gan y dramodydd syniad clir o’r hyn sydd ei angen ar adeg penodol. Maen nhw’n cael eu defnyddio hefyd pan fydd y plot yn cael ei yrru gan weithredoedd ar y llwyfan ac nid geiriau’r cymeriadau.
Dyma ddetholiad o olygfa agoriadol Mwnci ar Dân gyda chyfarwyddiadau llwyfan penodol.
Mwnci
Y’ch chi erio’d ‘di bod ar dân isie gwneud rhywbeth? Y’ch chi? Wi wedi. ‘Burning ambition’ oedd Tad-cu’n galw fe. (Yn ei gyflwyno ei hun.) Mwnci. Cheeky! Dim drwg exactly - ond wastad yn y ca… Yeah! Wrong place, wrong time. Guaranteed! Wi ‘na! Enghraifft! Nos Lun diwetha ar y ffordd adre…Mae diwyg sgriptiau teledu a ffilm yn debyg iawn i ddiwyg sgript drama. Ond, gan fod cyfryngau gwahanol yn cael eu defnyddio mae yna wahaniaethau technegol, ee cyfarwyddiadau megis ‘torri i’r olygfa nesaf’.