Ymarfer darllen cyfarwyddiadau llwyfan
Darllena’r detholiad byr hwn, ateba’r cwestiwn a chymharu dy ateb â’r ateb enghreifftiol.
Question
Daw’r detholiad hwn o’r cyfarwyddiadau llwyfan yn ail olygfa Pethe Brau, cyfieithiad o ddrama Tennessee Williams, The Glass Menagerie. Beth mae’r rhain yn ei ddweud wrthot ti am fwriad y dramodydd?
Ymddengys Laura ar y llwyfan. Tawela’r gerddoriaeth. Mae’n eistedd mewn cadair ifori frau ger bwrdd bychan. Mae’n gwisgo ffrog o ddefnydd lliw porffor meddal ar lun kimono; mae ei gwallt wedi ei glymu i fyny gyda rhuban. Mae wrthi’n golchi ac yn sgleinio’i chasgliad o anifeiliaid gwydr. Ymddengys Amanda ar y grisiau tân.
Pan glyw Laura hi’n cyrraedd, deil ei hanadl a cheidw’r fowlen o bethau gwydr ac eistedd yn ystwyth gerbron y siart deipio, a’r peiriant, fel petai wedi ei syfrdanu gan ei olwg.
Mae rhywbeth wedi digwydd i Amanda, mae hynny’n amlwg. Gellir gweld hynny wrth ei hwyneb, wrth ei bod hi’n dringo’r grisiau; gwedd digofaint, tristwch digalondid. Mae’n gwisgo un o’r cotiau salw, ffug-felfed hynny ac arni goler ffwr ddi-chwaeth. Mae ei het yn hen-ffasiwn, yn bump neu chwe blwydd oed, un o’r hetiau cloche ofnadwy a wisgid tua diwedd y dauddegau.
Mae’n cydio mewn llyfr ysgrifennu lledr du anferth. Dyna’i regalia pan â hi i’r D.A.R. Cyn agor y drws mae’n edrych trwy gil y drws. Mae’n cnoi ei gwefusau, yn agor ei llygaid led y pen ac yn eu troi tuag i fyny ac yna’n siglo’i phen. Yna mae’n agor y drws yn araf. Wrth weld ei mam, mae Laura yn cyffwrdd â’i gwefusau’n nerfus.
Y disgrifiad arwyddocaol cyntaf ydy’r gadair ifori ‘frau’ sy’n cael ei hadleisio yn y cyfeiriad at gasgliad Laura o anifeiliaid gwydr bregus. Gallen ni ddeall hyn fel awgrym gan y dramodydd fod y cymeriadau yn yr olygfa yr un mor fregus â’r eitemau hyn.
Mae yna awgrym o defodSeremoni ddwys neu grefyddol lle mae cyfres o bethau'n cael eu gwneud mewn trefn benodol. hefyd gyda’r disgrifiad o Laura’n golchi ac yn sgleinio’r casgliad gwydr. Mae’r gofal mae’n ei gymryd yn awgrymu bod y casgliad hwn yn werthfawr iawn iddi.
Mae’r disgrifiad o wisgoedd y cymeriadau’n fanwl iawn sy’n golygu bod y dramodydd wedi eu dewis am reswm arbennig; i ddarparu gwybodaeth am y cymeriadau i’r gynulleidfa. Disgrifir dillad Amanda gydag ansoddeiriau negyddol megis ‘salw’, ‘ffug’, ‘di-chwaeth’. Mae ei dillad hefyd yn hen-ffasiwn ac wedi dyddio. Mae hyn i gyd yn awgrymu bod yr awdur am i ni ei gweld fel cymeriad sydd wedi gweld dyddiau gwell ac nad ydy’n cael fawr o lwc. Gallai hefyd awgrymu ei bod yn byw yn y gorffennol ac nad ydy hi’n gallu symud ymlaen i’r presennol ac i realiti. Mae merch o Dde’r Unol Daleithiau - y southern belleMerch ifanc o'r dosbarth uchaf yn nhaleithiau deheuol Unol Daleithiau America. - â’i phrydferthwch wedi pylu, yn thema sydd i’w gweld drosodd a throsodd yn nramâu Tennessee Williams ac mae’r disgrifiad o olwg Amanda yn sicr yn cyd-fynd â’r math hwn o berson.
Yn y cyfarwyddyd dywedir y dylai Amanda gario prop, sef llyfr ysgrifennu lledr du anferth, gyda’r llythrennau ‘regalia D.A.R.’ (Daughters of the American Revolution) arno. Mae hyn hefyd yn awgrymu ei bod yn byw yn y gorffennol. Sefydliad i fenywod yn America oedd yn ddisgynyddion uniongyrchol i unigolyn oedd yn ymwneud ag annibyniaeth yr Unol Daleithiau oddi wrth y Deyrnas Unedig ym 1776 ydy’r D.A.R. Dyma gyfnod llawer hŷn na chyfnod y ddrama hon.
Mae’r dramodydd hefyd yn cynnig cyfeiriadau penodol ynglŷn â sut y dylai Laura ymateb yn gorfforol i olwg ei mam. Caiff ei disgrifio yn ‘dal ei gwynt’ ac yn syllu ar y teipiadur fel pe bai wedi’i ‘syfrdanu’ gan ei olwg. Mae hefyd yn cyffwrdd â’i gwefus yn nerfus. Mae hyn yn dangos i’r gynulleidfa bod tensiwn rhwng y fam a’r ferch. Nid dyma’r ymateb disgwyliedig o ferch yn falch i weld ei mam ac mae’n dangos yn glir heb eiriau nad perthynas gonfensiynol ydy hon.
Mae’r dramodydd hefyd yn disgrifio golwg Amanda a’i hymatebion. Mae ganddi wyneb sydd â gwedd o dristwch a digalondid. Mae symudiadau ei llygaid a chnoi ei gwefus yn awgrymu cynnwrf eithafol. Mae’n ddiddorol fod y ddau gymeriad yn cyffwrdd â’u gwefusau neu'n eu cnoi, sy’n syniad o ‘adlewyrchu’, ac sy’n awgrymu eu bod yn debyg i’w gilydd.