Ymchwilio i ran
Ar ôl darllen y ddrama ei hun, dylet ti ymchwilio i’r rhan rwyt ti’n ei chwarae. Ond cofia y dylet ti ddechrau dy ymchwil drwy ddarllen y ddrama’n fanwl.
Ceisia ateb y cwestiynau canlynol:
- ym mha gyfnod mae’r ddrama wedi ei gosod?
- ym mha wlad mae wedi ei gosod?
- pwy oedd y Prif Weinidog ar y pryd?
- beth oedd y digwyddiadau pwysig bryd hynny?
- sut roedd pobl yn gwisgo?
Bydd hyn o gymorth i ti ddeall cyd-destun cymdeithasol, gwleidyddol a hanesyddol y ddrama. Darllena Byd y ddrama i ddysgu mwy.
Os wyt ti’n ymchwilio i ran hanesyddol bydd angen i ti wybod beth oedd yn digwydd o dy gwmpas adeg y ddrama. Wedi’r cyfan, os wyt ti’n actio drama ramantus mewn gwlad sydd wedi ei rhannu oherwydd rhyfel, mae’n rhesymol disgwyl y byddai lefel ychwanegol o densiwn yn rhedeg drwy’r ddrama. Neu os ydy’r ddrama wedi ei gosod yn ystod digwyddiad penodol megis trychineb Aberfan ym 1966, byddai angen i ti astudio adroddiadau o’r cyfnod i ddeall beth ddigwyddodd ac effaith hynny ar y gymuned ac ar dy gymeriad.
Byddai hefyd angen i ti ymchwilio i dy wisg os wyt ti’n chwarae rhan hanesyddol. Er enghraifft, sut fyddai gwisg addurnedig o oes y TuduriaidY cyfnod 1485-1603 pan oedd aelodau o deulu brenhinol y Tuduriaid yn frenin neu'n frenhines Lloegr., fel yr un hon yn y ffilm Elizabeth, yn effeithio ar y ffordd rwyt ti’n symud? Darllena Defnyddio dy gorff i ddysgu mwy.
