Gweithio gyda sgriptDeall bwriad y dramodydd

Pan rwyt ti'n gweithio gyda sgript, edrycha'n ofalus ar y lleoliad, y cyfarwyddiadau llwyfan a'r deialog. Mae ymchwilio'r rhannau a chefndir y ddrama yn dy helpu i ddeall bwriad y dramodydd.

Part ofDramaSgiliau perfformio

Deall bwriad y dramodydd

Sut mae gwneud yn siŵr dy fod yn deall bwriad y dramodydd? Darllena'r ddrama a'r holl ddeunydd ategol. Gwna dy ymchwil a gwna dy orau.

Os ydy'r awdur wedi ysgrifennu ag angerdd a chred, dylai'r perfformwyr geisio cyfleu hyn. Dyfynnodd y dramodydd Gwenlyn Parry gwpled gan Goronwy Owen, y bardd o'r 18fed ganrif, ar ddechrau ei ddrama Y Tŵr:

Hafal blodeuyn hefyd. / I’n hoen fer yn hyn o fyd.
Goronwy Owen

Mae’n hanfodol talu sylw i’r geiriau hyn er mwyn deall neges Gwenlyn Parry yn y ddrama - mae ein bywydau’n fyr ac mae’n rhaid eu byw’n llawn oherwydd daw marwolaeth yn ddigon buan.

Onid gofyn y tri chwestiwn crefyddol mawr mae pob drama o bwys? / O ble y dois i. / Pam ydw i yma? / I ble rydw i’n mynd?
Gwenlyn Parry