Dod â’r testun yn fyw
Y stori
Bydd gan bob drama rywbeth rydyn ni’n gallu ei alw’n stori. Mae’n rhaid cael edefyn plot, sef y ffordd mae’r stori’n cael ei datgelu er mwyn i’r gynulleidfa allu deall yr hyn sy’n digwydd. Prif ddyletswydd y cyfarwyddwr ydy sicrhau bod hyn yn cael ei gyfleu’n gywir. Os ydy’r gynulleidfa’n ddryslyd am y stori, fyddan nhw ddim yn gwerthfawrogi effaith y perfformiad.
Weithiau mae plot yn gyfarwydd i’r gynulleidfa, ee roedd Shakespeare yn hapus i addasu plot gan awdur arall os oedd am ei ddefnyddio. Roedd yn gwneud defnydd helaeth o hanes fel ffynhonnell hefyd.
Plot anllinellolHeb fod mewn trefn gronolegol. sydd i ddrama Sera Moore Williams, Mwnci ar Dân felly dydy’r digwyddiadau ddim yn gronolegol a cheir sawl achos o ôl-fflach a rhewi. Mae hyn yn her, felly fel cyfarwyddwr rhaid i ti wybod pa stori rwyt ti’n ei hadrodd a sut rwyt ti am fynd ati i wneud hyn.
Pan fydd y cyfarwyddwr ac actorion yn dechrau gweithio ar destun, y bwriad ydy dod â geiriau’r awdur yn fyw. Mae hyn yn golygu ymarfer a defnyddio holl sgiliau’r perfformwyr, yn ogystal â gwaith y tîm tu ôl i’r llwyfan a’r tîm dylunio.
Mae tair agwedd yn ymwneud â gwireddu perfformiad:
- y ddrama
- y gynulleidfa
- y cwmni theatrig
Y math o ddrama
Pa fath o ddrama ydy hi? Ydy hi’n gomedi? Ydy hi’n ddarn realistig? Oes elfennau o theatr gerddorol neu theatr gorfforol? Oes naws gwleidyddol iddi? Os ydy’n ddarn o gomedi, mae angen i ti sicrhau bod y gynulleidfa’n mynd i chwerthin. Os ydy’n ddarn difrifol neu drasig, rhaid i ti sicrhau na fydd y gynulleidfa’n chwerthin.
Cofia nad ydy hyn fel nofel, lle mae gen ti destun a darllenydd. Yma mae un rhan o’r fformiwla, sef y gynulleidfa, yn newid bob nos. Yn eu tro, maen nhw yn nwylo perfformwyr byw felly dydy drama yn y theatr ddim yn greadigaeth artistig sefydlog. Mae hyn yn ei wneud yn fwy cyffrous ond hefyd yn anoddach rhagweld beth fydd yn digwydd. Felly rhaid i’r awdur gofio bob amser y gallai’r gynulleidfa a’r actorion ddehongli eu gwaith mewn ffordd wahanol. Felly os ydy actor yn ‘chwarae i ddwylo’ cynulleidfa sy’n arbennig o swnllyd, a allet ti ddadlau ei fod yn annheg â’r dramodydd?
Byddai rhai’n dadlau ar ôl i’r awdur gyflwyno ei waith, nad ydy’r ddrama’n ‘perthyn’ iddo ar ôl hynny. Mae modd i gwmnïau gwahanol ddehongli a pherfformio dramâu’n wahanol, ond mae bwriad y dramodydd yr un fath bob tro. Mae cynhyrchiad da yn ystyried yn ofalus yr hyn roedd y dramodydd yn ei ddweud a bydd yn ymdrechu’n galed i gyflawni amcanion y darn.