Cefndir y ddrama
Mae angen i ti fod yn ymwybodol o gefndir y ddrama, ei lleoliad ac unrhyw wybodaeth allweddol sy’n effeithio ar y stori. Er enghraifft mae Y Crochan, cyfieithiad o The Crucible gan Arthur Miller, yn ei hanfod yn ddrama sy’n seiliedig ar erlid ‘gwrachod’ yn Salem yn yr Unol Daleithiau yn ystod y 17eg ganrif. Ond pan edrychwn ni ar y cefndir a gweld pam y cafodd ei hysgrifennu, rydyn ni’n deall bod Miller yn gwneud sylwadau cymdeithasol deifiol ar gyfnod y Seneddwr McCarthy yn America’r 1950au. Roedd hwn yn gyfnod cythryblus pan ddinistriwyd bywydau ac enw da pobl yr amheuwyd eu bod yn ‘gomiwnyddion’. Mae hyn yn rhoi ystyr newydd i’r ddrama a rhaid i’r actorion a’r cyfarwyddwr ddeall hyn er mwyn gwneud cyfiawnder â’r gwaith.
Ymarfer drama newydd
Os ydy dramodydd yn gwylio drama newydd yn cael ei hymarfer, does dim amheuaeth y bydd dymuniadau’r dramodydd i’w gweld yn y cynhyrchiad. Mae cynhyrchiad da yn dadansoddi gwerth a bwriad y ddrama ac yn eu cefnogi. Gall cyfarwyddwr wneud newidiadau ond rhaid i’r rhain fod yn ddewisiadau gwybodus; rhaid deall themâu’r ddrama a’u dehongli yn y ffordd orau ar gyfer cynulleidfa gyfoes.
Drama dan hawlfraint
Os ydy drama’n dal i fod dan hawlfraint disgwylir i’r cyfarwyddwr gyflwyno’r testun llawn ac yn unol â bwriadau’r awdur, cyn belled ag y bo modd eu deall. Yn achos testunau hŷn sydd heb hawlfraintYr hawl gyfreithiol i reoli cynhyrchu a gwerthu llyfr, drama, ffilm, ffotograff neu ddarn o gerddoriaeth. Fel arfer mae hawlfraint yn bodoli am gyfnod cyfyngedig o amser., megis dramâu Shakespeare, mae gan gwmnïau theatr yr hawl i berfformio addasiadau ohonyn nhw. Golyga hyn eu bod nhw'n gallu defnyddio'r straeon i ddweud rhywbeth modern neu rywbeth gwahanol.

Moderneiddio hen ddramâu
Addasiad o ddrama Shakespeare, The Tempest ydy Return to the Forbidden Planet gan Bob Carlton, sy'n symud lleoliad y ddrama i'r gofod. Yn llai radical o bosib, fe weli di straeon o’r Mabinogion megis Branwen neu Blodeuwedd yn cael eu perfformio mewn gwisgoedd modern, gan wneud i’r gynulleidfa weld perthnasedd neges y ddrama’n fwy clir na thrwy lens gwisgoedd ‘clasurol’.