Ymchwilio i ran gyfoes
Mae ymchwil i’w wneud hyd yn oed os ydy’r rhan yn un fodern neu gyfoes.
Efallai y byddi di am weithio ar dy berfformiad yn null Konstantin StanislavskiActor a chyfarwyddwr dylanwadol o Rwsia (1863-1938) a oedd yn credu y dylai perfformiadau theatrig fod mor realistig â phosib. , gan dy roi dy hun yn sefyllfa’r cymeriad ac ateb y cwestiwn Beth fyddwn i’n ei wneud os mai fi fyddai’r cymeriad hwn?
Ond rhaid i ti ddeall y sefyllfa’n ddeallusol hefyd wrth weithio ar y rhan, beth bynnag ydy’r dull actio rwyt ti’n ei ddewis.
Er enghraifft, os ydy'r cymeriad yn ddigartref, beth mae hynny’n ei olygu i'r cymeriad? Pa mor debygol ydy hi ei bod nhw'n mynd i allu mynd yn ôl i fyw bywyd normal? Sut fyddet ti’n symud os wyt ti’n oer ac yn llwglyd drwy’r amser? Beth ydy realiti corfforol cysgu allan?

Os mai ti ydy’r cyfarwyddwr, dylet ti ymchwilio i bopeth. Dy gyfrifoldeb di ydy’r datganiad cyffredinol mae’r ddrama’n ei wneud. Er mwyn creu’r datganiad hwnnw’n effeithiol, rhaid i ti ddeall:
- cyd-destun y ddrama
- y cefndir cymdeithasol a hanesyddol
- cymhelliad pob cymeriad
- yr arddull rwyt ti wedi’i ddewis i lwyfannu’r ddrama, ee naturiolaidd
Rhaid i ti wybod a deall sut a pham y bydd y penderfyniadau hyn yn cyfoethogi dy ddehongliad o eiriau’r dramodydd.
Wrth gwrs byddai’n bosib i ti ddefnyddio arbenigwyr i dy helpu. Gallet ti ofyn am gyngor pobl sydd â gwybodaeth arbenigol am y cyfnod rwyt ti’n gweithio arno, y themâu sydd yn y ddrama neu’r gwisgoedd y dylet ti fod yn eu defnyddio. Mewn cyd-destun amatur, mae llawer o bobl yn mwynhau cymryd rhan neu gyfrannu at y cynhyrchiad, er nad ydyn nhw am fod ar y llwyfan. Yn y theatr broffesiynol, wrth gwrs, mae meysydd arbenigol fel hyn wedi eu datblygu i safon uchel. Bydd gan gwmni megis Theatr Genedlaethol Cymru ddylunwyr a hyfforddwyr llais a symud er enghraifft, i gefnogi eu gwaith.