Cadair yr Urdd er cof am dad a mab o Eryri
- Cyhoeddwyd

Cafodd y Gadair ei gwneud o dderw
Bydd Cadair Eisteddfod yr Urdd Eryri 2012 yn "gofeb deilwng i wŷr y pethe a'r pridd".
Cofio bywyd dau ŵr arbennig, tad a mab, yw bwriad teulu Fron Olau, Rhoslan ger Cricieth, wrth gyflwyno'r Gadair yn ogystal â choffáu cariad y teulu cyfan tuag at ddiwylliant Cymru a'i hieuenctid.
Fe fydd diwrnod y seremoni, dydd Iau Mehefin 7, yn un chwerw felys i deulu Meirion a Ceredig Parry, gwraig a mam y ddau, Edith Parry, ei merch, Bethan Jones Parry ac i Eleri, gweddw Ceredig, a'i fab, Gwynant Rhys .
"Mi fyddai'r ddau wrth eu boddau eu bod nhw'n cael eu coffáu â'r Eisteddfod yn Eryri," eglura Bethan Jones Parry.
"Dyn y pethe oedd Dad a dyn y pridd oedd Ceredig, yn ffermio'r fferm deuluol.
"Ond roedd y ddau yn Gymry i'r carn.
"Roedd Dad yn weithgar efo'r Urdd am flynyddoedd maith, yn ystod ei gyfnod yn athro ysgol ac yna'n brifathro am nifer fawr o flynyddoedd.
'Gweithgar'
"Bu ei gyfnod fel Prifathro yn Ysgol Chwilog ac yna Ysgol Eifion Wyn, Porthmadog yn gyfle iddo feithrin pobl ifanc ym mywyd a gwaith Adrannau ac Uwchadrannau'r Urdd a bu'n arwain nifer o Eisteddfodau Cylch a Sir am flynyddoedd hefyd.
"Roeddem fel teulu yn ei gweld hi'n gyfle gwerth chweil yn Eisteddfod yr Urdd eleni i gofio am ŵr, tad, brawd a thaid annwyl iawn."
Bu farw Ceredig Parry yn 2009 wedi gwaeledd, yn 50 oed, gan adael gwraig a mab sydd bellach yn 13 oed.
Flwyddyn yn gynt bu farw Meirion Parry.
Mae cyflwyno'r Gadair yn gyfle i ddathlu bywyd y ddau a gyfrannodd cymaint i'w cymunedau a'u hardaloedd gwledig.
Cyfaill i'r teulu a chrefftwr o'r radd flaenaf, Llewelyn Wyn Jones o Rosfawr ger Pwllheli sydd wedi gwneud y Gadair.
Disgrifiodd y Gadair fel un "blaen, ddefnyddiol".

Bethan Jones Parry yn cyflwyno'r Gadair er cof am ei thad a'i brawd i Aled Sion, Cyfarwyddwr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, gafodd ei gwneud gan Llewelyn Wyn Jones
Mae yna ddarn o lechen o Ddyffryn Nantlle ynddi ac roedd hynny yn bwysig i'r teulu gan fod llinach y teulu o'r ddwy ochr yn deillio o Ddyffryn Nantlle.
O dan y llechen sydd â'r llinell wyrddlas nodweddiadol o chwareli Dyffryn Nantlle yn rhedeg drwyddi, mae cerfiad cywrain o lwybr a choed.
Mae'r cerfiad yn adlewyrchu ysblander y Lôn Goed, sydd dafliad carreg o gartref y teulu yn Fron Olau.
"Gan mod i'n nabod Bethan a'r teulu, roedd hi'n fraint cael creu'r gadair er cof am Meirion a Ceredig Parry," eglurodd y crefftwr.
"Mae hi'n fraint fawr cael creu Cadair i Eisteddfod fawr fel hon ar ein stepan drws.
"Mae'n Gadair lydan gyda dwy fraich a'r ddwy goes flaen wedi ei thurnio.
"Mae 'na dro ar flaen y gadair ac mae'r cefn yn gorwedd yn ôl fymryn.
"Rhyw wythnos dda gymrodd i mi ei chreu, a dyma'r tro cyntaf i mi greu cadair i Eisteddfod yr Urdd."
Cyflwynir Cadair Eisteddfod yr Urdd eleni am gyfansoddi cerdd gaeth neu rydd ar y testun 'Cylchoedd' a'r beirniaid yw Rhys Iorwerth ac Ifan Prys.