Diwedd y daith
- Cyhoeddwyd

Hyd yn hyn mae Williams wedi chwarae 136 o weithiau dros y Gweilch gan sgorio 54 cais.
Mae BBC Cymru yn deall y bydd Shane Williams yn rhoi'r gorau i chwarae rygbi'n gyfan gwbwl ar ddiwedd y tymor.
Gorffennodd Williams ei yrfa ryngwladol gyda chais yn symudiad olaf y gêm yn erbyn Awstralia yn Stadiwm y Mileniwm ym mis Rhagfyr y llynedd.
Mae gan yr asgellwr, sy'n 35 oed y mis hwn, gytundeb gyda'r Gweilch tan ddiwedd tymor 2012-13.
Tîm sylwebu
Roedd y rhanbarth wedi cynnig estyniad o flwyddyn i'w gytundeb ond mae'n debyg fod Williams wedi penderfynu ymddeol ar ôl gyrfa sydd wedi para 14 mlynedd.
Sgoriodd 58 cais mewn 87 gêm dros Gymru.
Yn bum troedfedd a saith modfedd ac yn pwyso 12 stôn ac 8 pwys roedd Williams yn atsain o oes a fu o'i gymharu â'r llu o asgellwyr tal a thrwm sy'n dominyddu'r gêm fodern.
Mae e eisoes wedi dangos diddordeb i hyfforddi ac mae wedi cynnal trafodaethau â rheolwr cyfarwyddwr y Gweilch, Mike Cuddy, ynglŷn â'i yrfa wedi iddo ymddeol.
Bydd Williams yn ymuno â thîm sylwebu BBC Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.
Cafodd yr asgellwr ei eni yn Abertawe a'i fagu yng Nglanaman
Bu'n chwarae rygbi i dîm Castell Nedd rhwng 1998 a 2003 cyn ymuno â'r Gweilch.
Y Llewod
Enillodd ei gap cyntaf dros Gymru mewn gêm yn erbyn yr Eidal yn 2000, pan sgoriodd gais.
Yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2005, roedd yn rhan o'r tîm a gyflawnodd y Gamp Lawn, gan sgorio cais yr un yn erbyn yr Eidal, yr Alban a Lloegr.
Cafodd ei ddewis yng ngharfan y Llewod a deithiodd i Seland Newydd yr un flwyddyn.
Yng ngêm olaf pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2008 yn erbyn Ffrainc sgoriodd gais i dorri record Gareth Thomas fel prif sgoriwr Cymru gan helpu Cymru ennill y Gamp Lawn am yr ail dro mewn pedair blynedd.
Ar ddiwedd y gystadleuaeth, cafodd ei ddewis yn chwaraewr y bencampwriaeth ac enillodd Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru yn 2008.
Bu hefyd yn rhan o dîm y Llewod a deithiodd i De Affrica'r un flwyddyn gan sgorio dau gais ym muddugoliaeth y Llewod o 28-9 yn y trydydd prawf.
Hyd yn hyn mae Williams wedi chwarae 136 o weithiau dros y Gweilch gan sgorio 54 cais.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2011

- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2011

- Cyhoeddwyd21 Hydref 2011
