Cymorth i farw: Achos cryf i newid y ddeddf
- Cyhoeddwyd

Mae cynorthwyo rhywun i farw yng Nghymru a Lloegr yn anghyfreithlon
Mae comisiwn wedi cyhoeddi canllawiau allai gael eu cyflwyno i newid y gyfraith ar roi'r hawl i bobl gael cymorth i farw.
Ar ôl casglu tystiolaeth dros gyfnod o flwyddyn, mae'r comisiwn, dan arweiniad y cyn-arglwydd ganghellor Llafur, yr Arglwydd Falconer o'r farn y gallai pobl sy'n cyrraedd diwedd eu hoes ddewis cael cymorth i farw, os ydyn nhw'n gwneud hynny o'u gwirfodd.
Cafodd y comisiwn ei sefydlu a'i ariannu gan y rhai sydd am weld newid yn y gyfraith, yr awdur Syr Terry Pratchett sy'n diodde' o Alzheimer's, a Dignity in Dying.
Roedden nhw'n dweud bod y system bresennol "yn annigonol".
Ond ymateb cymysg a gafodd y comisiwn sydd wedi ei ddisgrifio fel rhagfarnllyd gan feirniaid.
Ymhlith y dystiolaeth i'r comisiwn yr oedd meddygon, cyn-gomisiynydd heddlu a chyn Lywydd y Cyngor Meddygol Cyffredinol.
Derbyniwyd dros 1,300 darn o dystiolaeth ac fe wnaeth rhai grwpiau wrthod rhoi tystiolaeth am eu bod yn gwrthwynebu newid yn y ddeddf a'r modd y sefydlwyd y comisiwn.
Asesiadau
Yn ôl y comisiwn fe ddylai pobl gael cymorth i farw os ydyn nhw dros 18 oed, yn derfynol wael, gyda llai na 12 mis i fyw, yn gwneud y penderfyniad yn wirfoddol a heb unrhyw broblemau iechyd meddwl.
Cyn y dylai gael ei ganiatáu, fe ddylai'r person hefyd gael ei asesu gan ddau feddyg yn ôl yr adroddiad.
Mae'r adroddiad hefyd yn honni y dylai'r unigolyn gymryd y feddyginiaeth ei hun - nid fel ewthanasia lle mae'r feddyginiaeth yn cael ei roi gan berson arall.
Ychwanega y dylai gofal diwedd oes gael ei wella er mwyn sicrhau nad ydi bobl yn cael eu gwthio i benderfyniad am nad oes 'na ddigon o ofal ar gael.
Ond gyda'r holl ffactorau yma, dywed y comisiwn bod 'na "achos cryf" i ganiatáu cymorth i farw.
Ond mae un o'r 11 comisiynydd, y Parchedig Ganon Dr James Woodward, yn anghytuno gyda'r casgliadau.
Dywedodd y comisiynwyr fod y sefyllfa bresennol yn "annigonol, yn anghyson ac na ddylai barhau".
Mae cynorthwyo rhywun i farw yn anghyfreithlon o dan y Ddeddf Hunanladdiad 1961.
'Cynhwysfawr'
Ond y llynedd fe wnaeth Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus osod canllawiau a allai gael eu hystyried wrth benderfynu erlyn rhywun a fyddai wedi cynorthwyo rhywun i farw.
Adroddiad Dafydd Gwynn
Arglwyddi'r Gyfraith wnaeth orchymyn y mesur yma a ddywedodd bod gan ddynes gyda sglerosis ymledol (MS) yr hawl i wybod o dan ba amgylchiadau y byddai ei gŵr yn cael ei erlyn petai o'n ei helpu i deithio dramor i farw.
Dywedodd Sarah Wootton, Prif Weithredwr Dignity in Dying, fod yr adroddiad "yn gynhwysfawr ac yn gadarn" gan ychwanegu ei bod yn gobeithio "y byddai'n sail i newid y ddeddfwriaeth yn y dyfodol".
Ond dywedodd Dr Peter Saunders, cyfarwyddwr ymgyrch Care Not Killing, nad oedd angen yr ymchwiliad "rhagfarnllyd a diffyg tryloywder" yma.
Dywedodd llefarydd ar ran y Gymdeithas Feddygol Brydeinig a wrthododd rhoi tystiolaeth eu bod yn credu "nad yw'r mwyafrif o feddygon am weld cyfreithloni cymorth i farw".
Dywedodd Llywodraeth San Steffan nad oes cynlluniau i newid y gyfraith.