Helpu elusen drwy gadw'n heini
- Cyhoeddwyd

Ben Nevis yw'r ucha' o'r tri mynydd
Mae elusen Canser y Fron yn gobeithio y bydd nifer yn gwneud adduned Blwyddyn Newydd drwy wisgo'r esgidiau cerdded a chyflawni Her y Tri Copa.
O fewn 24 awr mae miloedd o bobl yn ceisio cyrraedd copa'r mynydd ucha' yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.
Caiff Her y Tri Copa ei chyfri fel un o'r caletaf yn y DU.
Ond mae'r elusen yn gobeithio y bydd pobl yn ystyried gwneud hyn at achos da.
Fe fydd y rhai sy'n cymryd rhan yn cerdded tua 24 milltir, yn dringo dros 10,00 troedfedd o fewn 24 awr.
Mae'n her ac yn waith tîm i gyrraedd copa'r Wyddfa, Ben Nevis a Scafell Pike.
Er mwyn cymryd rhan yn y ras ym mis Gorffennaf mae angen cofrestru cyn mis Ebrill.
"Os ydach chi'n chwilio am her, yn chwilio am ffordd o gadw'n heini neu golli pwysau yn 2012, gall yr her yma fod yn ddelfrydol," meddai Kelly Walton o'r elusen.
"Nid yn unig y cewch chi'r cyfle i wneud rhywbeth arbennig ond fe fyddwch chi'n gwneud hynny drwy godi arian allweddol ar gyfer ymchwil i ganser y fron."