Cyfnewid addurniadau Nadolig o Ewrop

  • Cyhoeddwyd
Addurniad coeden NadoligFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Ymhlith yr addurniadau mae pâr o sgidiau lledr o Calabria yn yr Eidal

Mae 196 o ysgolion o 19 wlad Ewropeaidd wedi cymryd rhan mewn cynllun cyfnewid addurniadau coeden Nadolig.

Mae'r addurniadau i'w gweld ar ddwy goeden yn Llangollen, yn swyddfa ECTARC ac yn llyfrgell y dref.

"Dechreuon ni'r cynllun cyfnewid bum mlynedd yn ôl ac mae wedi tyfu ers hynny," meddai Vanessa Baldry o Europe Direct, gwasanaeth gwybodaeth y Comisiwn Ewropeaidd, sy'n gyfrifol am addurno'r coed.

Ymhlith yr addurniadau roedd pâr o sgidiau lledr traddodiadol o Calabria yn yr Eidal.

"Yn yr Eidal mae plant yn rhoi eu hesgidiau'n barod i dderbyn anrhegion dros y Nadolig," meddai Ms Baldry.

"Ond os ydyn wedi bod yn ddrwg yna cerrig a lludw sydd yn cael eu gadael."

Cynrychioli bywyd

Mae hefyd meillionen o Iwerddon, golygfa'r geni o Bortiwgal a thambwrin o'r Eidal.

Bob blwyddyn mae Europe Direct yn gwahodd ysgolion cynradd i greu addurniadau Nadolig sydd yn cynrychioli rhyw agwedd o fywyd yn eu gwlad.

Mae'r plant yn gwneud eu haddurniadau ym mis Tachwedd ac yn eu postio allan i ysgolion eraill erbyn diwedd y mis.

Ymhlith y gwledydd a gymerodd rhan eleni oedd Gwlad Belg, Iwerddon, Gwlad Pwyl, Denmarc, Sbaen a Chyprus.

Addurniadau coeden NadoligFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r addurniadau yn dod o 19 wlad Ewropeaidd

Yng ngogledd Cymru cymerodd ysgolion o Sir y Fflint a Sir Ddinbych ran yn y prosiect.

Dywedodd Ms Baldry: "Rydyn ni am barhau efo'r prosiect blwyddyn nesaf a gobeithiwn y bydd yn fwy fyth.

"Byddai'n wych petai pob un o 27 o wledydd yr Undeb Ewropeaidd yn cymryd rhan tro nesaf."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol