Ffosiliau yn bwrw golwg ar hanes daearyddol Cymru
- Cyhoeddwyd

Darganfyddwyd yr hydroid mewn llun pelydr x
Mae gwyddonwyr wedi dod o hyd i ffosiliau 460 miliwn o flynyddoedd oed mewn chwarel ym Mhowys.
Dyma'r enghreifftiau cyntaf o'r mathau yma o ffosil, yn ôl arbenigwr o brifysgol yn China.
Mae'r organebau o'r cyfnod Ordofigaidd yn cynnwys sbyngau, pryfaid genwair a hydroidau, a gaiff eu hadnabod fel sêr y môr.
Cafodd y ffosiliau eu darganfod ger Llandrindod - roeddent o dan ddŵr yn ystod y cyfnod ac maent yn gymorth i arbenigwyr ddeall mwy am gymunedau cefnforol.
"Roedd yna gefnfor rhwng yr Alban a Chymru ac roedd Cymru yn bellach i'r de nag ydyw heddiw," eglurodd Dr Lucy Muir, paleontolegwr o sefydliad daeareg a phaleontoleg yn Nanjing, China.
"Roedd yr ardal o amgylch Llandrindod yn rhan o gadwyn o ynysoedd folcanig yn ystod y cyfnod Ordofigaidd, yn debyg i Indonesia heddiw.
"Wrth i'r ynys dyfu ac erydu, cafodd lot o waddod (tywod, silt a mwd) ei olchi i mewn i'r môr. Claddwyd gweddillion lot o anifeiliaid yn gyflym iawn - weithiau pan roeddent dal yn fyw - cyn iddynt allu chwalu'n ddarnau neu gael eu bwyta."
Pelydr-X
Ond nid oedd Dr Muir yn disgwyl gwneud darganfyddiad mor bwysig ar ôl ei hymweliad â chwarel Llanfawr.
"Ddaru ni gasglu darnau o graig, a'u cludo yn ôl i'r Amgueddfa Hanes Naturiol yn Llundain," eglurodd.
"Awgrymodd un o'n cyd-weithwyr i'w rhoi o dan y peiriant pelydr-X.
"Ar y slab cyntaf, roedd 'na hydroid ysblennydd 'doedden ni ddim wedi ystyried y gallai fod yno gan ei fod wedi ei amgau'n llwyr o fewn y garreg."
Mae ardal chwarel Llanfawr yn enwog am ei ffosiliau, ond ni chafodd arwyddocâd y ffosiliau yma ei ddarganfod tan 2004. Cyhoeddwyd y darganfyddiad yn Rhagfyr 2011 gan Dr Muir a Dr Mark Sutton o Goleg Imperialaidd Llundain.
"Er bod yna llond llaw o leoedd o amgylch y byd sy'n diogelu anifeiliaid bach, meddal ac eiddil mewn ffordd debyg, nid yw'r un ohonynt wedi diogelu'r math yma o ecosystem," meddai Dr Sutton.
"Mae'r ffawna newydd yn rhoi darlun i ni o gymuned o ffosiliau newydd a chyffrous. Maen nhw'n debyg i rai o'r cymunedau a gaiff eu darganfod yng ngwaelod y moroedd heddiw."
Bydd y ffosiliau yn cael eu cadw yn yr Amgueddfa Hanes Naturiol yn Llundain.