Goleuadau Nadolig yn dychwelyd i dref
- Cyhoeddwyd

Mae busnesau Aberteifi wedi casglu £12,000 i dalu am y goleuadau.
Ar ôl absenoldeb y llynedd mae goleuadau Nadolig wedi dychwelyd i brif stryd Aberteifi eleni.
Roedd seremoni goleuo y tu allan i Neuadd y Dref nos Iau.
Y llynedd doedd hi ddim yn bosib gweld y goleuadau oherwydd rhesymau iechyd a diogelwch.
Doedd yr hen fachau oedd yn dal goleuadau ddim yn ddigon cryf i ddal pwysau goleuadau newydd.
£12,000
Mae busnesau Aberteifi wedi casglu £12,000 i dalu am y goleuadau.
Talodd Cyngor Ceredigion £5,500 am fachau newydd gafodd eu gosod rai wythnosau yn ôl.
Dywedodd perchnogion busnes eu bod yn falch o weld y goleuadau yn ôl, gan y byddan nhw'n denu pobl i'r siopau.
"Yn fy marn i, mae pobl Aberteifi a masnachwyr y dre yn meddwl ei bod hi'n bwysig cael goleuadau Nadolig," meddai Cadeirydd Siambr Fasnach Aberteifi, Paul Oakley.
"Maen nhw'n denu pobl i wario arian yn y dref yn ogystal â nodi dechrau Gŵyl y Nadolig."
'Tipyn o hwb'
Dywedodd Maer Aberteifi, Catrin Miles, y byddai'r goleuadau yn "rhoi tipyn o hwb" i'r dref.
Dywedodd cigydd lleol, Keith Davies: "Rwy'n hapus dros ben, yn enwedig ar ôl y llynedd pan aeth y cynllun yn draed moch."
Dywedodd Miriam James, sy'n gweithio yn siop lyfrau Awen Teifi: "Roedd hi'n sefyllfa siomedig y llynedd ond rydyn ni'n gobeithio y bydd strydoedd Aberteifi yn llawn siopwyr eleni."
Roedd siopau yn aros ar agor tan 10.30pm nos Iau, Rhagfyr 1.