'Mwy o lais mewn penderfyniadau'
- Cyhoeddwyd

Nod y poster yw codi ymwybyddiaeth
Mae poster, sy'n cael ei lansio ddydd Iau, yn anelu at roi gwybod fod gan bobl ifanc anabl fwy o lais wrth ddylanwadu ar benderfyniadau am eu dyfodol.
Nod poster "Cael Llais, Cael Dewis" yw helpu pobl ifanc anabl ddeall yr hyn y gallan nhw ei ddisgwyl o ran yr wybodaeth sy'n cael ei a rhoi iddyn nhw, sut y byddan nhw'n cymryd rhan yn y broses a pha adborth sy'n cael ei roi.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Blant a Gwasanaethau Cymdeithasol, Gwenda Thomas: "Mae angen i ni i gyd wrando ar yr hyn sydd gan blant a phobl ifanc i'w ddweud, a chymryd eu barn o ddifrif.
"Gobeithio y bydd y poster yn helpu oedolion i gynnwys ac ymgysylltu â phobl ifanc yn fwy effeithiol, gwrando arnyn nhw, a rhoi sylw dyledus i'w materion nhw.
"Gobeithio hefyd y bydd pobl ifanc yn gallu defnyddio'r poster hwn yn eu hysgolion a chymunedau, ac annog eraill i'w ddefnyddio hefyd."
Pobl ifanc ddyluniodd y poster gafodd ei greu gan yr Uned Gyfranogiad o fewn Achub y Plant a Gyda'n Gilydd dros Hawliau.
Atgoffa
Un o'r rhai baratodd y poster oedd Leanne Cole o Sir Benfro.
"Dwi'n meddwl bod y poster yn bwysig gan ei fod yn dangos i bobl ifanc sut y gallan nhw fanteisio ar y broses," meddai.
"Hefyd mae'n atgoffa pobl broffesiynol beth yn union maen nhw i fod i' wneud.
"Weithiau, mae'n gallu bod yn anodd oherwydd mae rhywun yn teimlo nad ydyn nhw'n gwrando - neu maen nhw'n esgus gwrando.
"Mae gwrando wastad yn bwysig."
Fe gafodd y prosiect ei ariannu'n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.
Dywedodd Catriona Williams, Prif Weithredwr Plant yng Nghymru: "Rydym wrth ein bodd fod pobl ifanc anabl yn cymryd yr awenau wrth ddatblygu'r adnodd ac roedd yn bleser gweld cytundeb a chydweithrediad y tîm wrth iddyn nhw fwrw ymlaen â'r gwaith.
"Dylai'r holl bobl ifanc dan sylw fod yn falch o'u gwaith."