Gwella delwedd bwyd organig
- Cyhoeddwyd

Bydd y gynhadledd y gyfle i drafod amrywiaeth o bynciau sy'n ymwneud â bwyd organig
Gwella perfformiad busnesau organig drwy edrych ar ffyrdd posib o gynyddu delwedd y brand.
Dyna fydd nod cynhadledd a fydd yn cael ei chynnal yn Llanelwedd yn ddiweddarach.
Mae 'na deimlad ymysg rhai pobl fod cynnyrch organig yn ddrud.
Fe fydd y gynhadledd, sydd wedi cael ei threfnu gan Ganolfan Organig Cymru, yn gyfle i drin a thrafod amrywiol o faterion sy'n ymwneud â chynhyrchu a marchnata cynnyrch organig.
Mae'n gyfle i ffermwyr organig, cynhyrchwyr a busnesa ddod at ei gilydd i drafod y pynciau wyneb yn wyneb a dysgu o brofiadau'i gilydd.
Ymhlith yr hyn fydd yn cael ei drafod y mae sut i newid y ddelwedd bod cynnyrch organnig yn ddrud a sut i ehangu'r farchnad?
"Mae'r gynhadledd yma yn mynd i roi cyfle gwirioneddol am drafodaeth rhwng busnesau a ffermwyr, y rhai sy'n rhan o'r gadwyn organig," meddai Sue Fowler, Cyfarwyddwr Canolfan Organig Cymru.
'Gweithio'n galed'
"Yn flynyddol rydym yn derbyn adborth gwerthfawr gan y rhai sy'n mynychu'r gynhadledd sy'n ein galluogi i ddarparu cyngor a gwybodaeth."
Ychwanegodd Dafydd Owen, Rheolwr Prosiect cynllun Gwell Cysylltiadau Busnes Organig, ar gyfertaledd bod 17 tŷ o bob 20 yn prynu cynnyrch organig bob blwyddyn gyda mwyafrif yn prynu rhywbeth pob pythefnos.
"Bob tro mae 'na le i wella ac mae angen gweithio'n galed i gael y neges allan," meddai.
"Nid cynllun marchnata yw organig.
"Mae gwraidd y sefydliad yn mynd yn ôl i'r 1920au pan oedd grŵp o ffermwyr arloesol yn anhapus gyda'r defnydd o wrtaith a phlaladdwyr ariffisial.
"Roedden nhw'n cadw at yr hen ffordd o ffermio er mwyn gwarchod y tir a'r cynnyrch.
"Wrth brynu cynnyrch organig mae rhywun yn gwneud mwy na phrynu bwyd, yn cefnogi system o amaethyddiaeth sy'n gynaliadwy ac yn gwarchod y tir."
Ychwanegodd ei fod yn ymwybodol o'r pryder gan rai bod bwydydd yn ddrytach ond dywedodd "wrth brynu'r bwydydd crai, mae'n rhatach i'w goginio eich hun na mynd allan am fwyd".