Seren sgimio cerrig o Sir Benfro wedi ei wahodd i feirniadu yn yr Ariannin

Disgrifiad,

Allwch chi sgimio carreg mor bell â hyn? Gwyliwch luniau fideo drôn o Phil Bloxham

  • Cyhoeddwyd

Mae gŵr o Sir Benfro - sy'n gallu sgimio cerrig am 157m - ar ei ffordd i'r Ariannin i feirniadu ym mhencampwriaeth gynta'r wlad yn y gamp.

Fel nifer o bobl ar draws Cymru, fe dreuliodd Phil Bloxham rhan fawr o'i blentyndod yn taflu cerrig.

Ond tra'r oedd ar wyliau yn Nyfnaint yn 2022 fe ddywedodd rhywun ei fod yn sgimio fel pencampwr a dechreuodd ymchwilio i'r gamp.

Sylweddolodd bod pencampwriaeth Cymru ar fin cael ei chynnal a phenderfynodd rhoi cynnig arni - a dod yn ail.

Phil Bloxham gyda cerrigFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Phil Bloxham yn bencampwr sgimio cerrig, ac yn gallu taflu carreg sy'n taro wyneb y dŵr tua 100 o weithiau

Mae miloedd bellach yn ei ddilyn ar y cyfryngau cymdeithasol lle mae'n rhoi cyngor ar sut i daflu fel yr arbenigwyr, sy'n gallu taflu cerrig sy'n taro wyneb y dŵr tua 100 o weithiau am bellter o dros 150m.

Fe welodd rhywun o'r Ariannin ei fideos a'i wahodd drosodd yr wythnos yma i fod yn feirniad yng nghystadleuaeth genedlaethol sgimio cynta'r wlad.

Fe fydd y bencampwriaeth yn cael ei chynnal ar lan llyn Nahuel Huapi, yn San Carlos de Bariloche, yng ngwaelodion yr Andes ym Mhatagonia.

"Dwi ddim yn gallu credu bod fi'n mynd - mae'n edrych yn berffaith a dwi wrth fy modd," meddai ar raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru.

"Mae pobl ym Mhatagonia yn caru sgimio ac maen nhw'n deud bod y garreg yno yn dda, y dŵr yn dda a tydi nhw ddim wedi neud e cyn nawr. Mae pobl eisiau fe achos maen nhw'n meddwl bydd nhw'n dda iawn - efallai fydd nhw'n well na neb yn y byd."

Disgrifiad,

Fideo arall o Phil Bloxham yn dangos ei sgiliau sgimio cerrig

Eglurodd mai ei waith fydd goruchwylio'r gystadleuaeth a'u helpu i gyfrif sawl gwaith mae'r cerrig yn taro'r dŵr - sydd ddim yn hawdd.

"Mae'r garreg yn rhy gyflym ac mae'r llygaid yn araf iawn felly mae'n important ni'n neud e yn dda," meddai.

Gall y math o garreg a chyflwr wyneb y dŵr effeithio ar ba mor bell all rhywun daflu.

Mae'n rhaid defnyddio carreg sydd wedi ei ganfod yn lleoliad y gystadleuaeth a does dim hawl ei haddasu.

Ym Mhencampwriaeth y Byd yn Yr Alban y llynedd fe gafodd sawl person eu diarddel am addasu'r cerrig.

Phil Bloxham yn sgimio carregFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae dŵr llonydd heb donnau yn help i daflu yn bell

Mae'r daith i Batagonia yn ddechrau blwyddyn brysur i Mr Bloxham gyda phencampwriaeth Cymru yn cael ei chynnal yn Llanwrtyd fis Mai, pencampwriaethau'r byd yn Yr Alban fis Medi, cyn iddo deithio i gystadlu i ddinas Berlin fis Hydref.

Dywedodd mai rhan o'r gyfrinach i lwyddo ydi dod o hyd i'r garreg berffaith: "Ti moyn carreg sydd gyda gwaelod fflat ac mae'n teimlo'n dda yn y llaw - dim rhy drwm a rhywbeth ti'n meddwl bod ti'n gallu taflu yn gryf.

"Ar ôl hynny yr un peth mwya' pwysig yw taflu e dim mewn i'r dŵr ond ar y dŵr."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol