Gwrthdrawiad yn Yr Alban wedi 'dinistrio' teulu dyn ifanc o Bowys

Dywedodd Kevin Page bod Connor yn fab 'anhygoel, hyfryd, yn barod ei gymorth ac yn weithiwr caled'
- Cyhoeddwyd
Mae tad i ddyn ifanc o Aberhonddu a fu farw ynghyd â dau ffrind mewn gwrthdrawiad yn yr Alban yn 2024, wedi dweud bod y gyrrwr wedi "dinistrio" ei deulu.
Bu farw Connor Page, 21, Lewis Soden, 24, a Reece Williams, 23, ar ôl i gar Ford Focus oedd yn cael ei yrru gan Jorja Colville fod mewn gwrthdrawiad ger Falkirk ym mis Gorffennaf.
Yn yr Uchel Lys yn Stirling ddydd Iau, cafodd Colville ddedfryd o dair blynedd a 10 mis o garchar ar ôl cyfaddef iddi achosi marwolaethau'r tri drwy yrru'n beryglus.
Dywedodd y barnwr Lady Ross bod gyrru Colville wedi bod yn "ddisynnwyr, diofal ac yn amlwg yn beryglus".

Bu farw Connor Page, Lewis Soden a Reece Williams yn y gwrthdrawiad ym mis Gorffennaf 2024
Mewn cyfweliad â BBC Scotland dywedodd tad Connor Page, Kevin ei fod yn "crïo bob dydd", a bod gweithredoedd Colville "i bob pwrpas wedi lladd ei wraig Jill", oedd wedi torri ei chalon ac a fu farw fis Awst 2025 ar ôl i'w hiechyd ddirywio.
Roedd yr Uchel Lys yng Nghaeredin wedi clywed yn flaenorol bod car Colville, o Stirling, wedi bod mewn gwrthdrawiad ar ôl iddi yrru rownd cornel ar gyflymder o dros 85mya.
Wrth siarad o'i gartref yn Aberhonddu, dywedodd Kevin Page ei fod yn beio Colville am farwolaeth ei wraig "oherwydd iddi hi golli ei mab".
"Mae'r hyn wnaeth y gyrrwr wedi ein dinistrio ni," meddai.
"Fe alla i fod yn sicr, petai fy mab yn dal gyda ni, fe fyddai Jill yn dal gyda ni.
"Mae bywyd yn uffern nawr, rwy'n deffro yn y nos ac yn gallu clywed pin yn disgyn.
"Rwy'n codi yn y bore, ac mae'r tŷ yn wag.
"Rwy'n gweld gwely Connor lle y gwnaeth ei adael, does neb wedi cysgu ynddo ers hynny."

Mae Jorja Colville wedi cael ei charcharu am achosi marwolaethau'r tri dyn ifanc drwy yrru'n beryglus
Ychydig cyn ei farwolaeth, roedd Connor wedi cymhwyso fel gyrrwr cerbydau HGV, ac ar ymweliad â'r Alban gyda'i ffrind Lewis i weld Reece Williams - cariad Colville.
Roedden nhw wedi cyrraedd eu gwesty, ac yna fe wnaeth Colville gasglu'r dynion yn ei char.
Mae Kevin Page yn credu mai'r bwriad oedd mynd allan am bryd o fwyd ac, o bosib, i fowlio.
Ond wnaethon nhw erioed gyrraedd.
Dywedodd tyst wrth y llys iddi weld car Ford Focus gwyn Colville yn symud ar gyflymder ar ôl ei phasio hi.
Ar ôl mynd heibio sawl tro yn y ffordd, dywedodd y tyst iddi weld malurion ar y ffordd, ac yna fe welodd y car yn y gwrych.
Roedd y car ar ei ochr, wedi ei ddifrodi'n sylweddol, ac roedd Colville wedi ei gorchuddio â gwaed ac yn sgrechian am gymorth.
Pan gyrhaeddodd yr heddlu, fe gadarnhaodd Colville mai hi oedd y gyrrwr, a bod Reece Williams yn y car ynghyd â'i ffrindiau.
Bu farw'r tri dyn ifanc o'u hanafiadau.

Mae plac wedi ei osod ar safle'r ddamwain, er cof am y tri fu farw
Mae Kevin Page yn dweud ei bod hi'n anodd dygymod â cholli eu mab mor bell o gartref.
Roedd o a Jill yn y gwely tua 01:20 pan wnaeth yr heddlu guro ar y drws.
Dywedodd yr heddlu wrtho bod Connor wedi bod mewn damwain yn Yr Alban ac wedi marw o'i anafiadau.
"Roeddwn i'n gwbl syfrdan.
"Roedd yn rhaid i mi dorri'r newyddion i Jill.
"Mae'r hyn y gwnaeth y bechgyn ei brofi mewn cyfnod o 15 munud, yr anhrefn, y tu hwnt i mi.
"Rwy'n deffro yn y nos yn meddwl am yr hyn yr aeth Connor drwyddo."

Bu farw mam Connor ychydig dros flwyddyn wedi'r ddamwain a laddodd ei mab
Dywedodd Kevin bod y cyfnod ar ôl y ddamwain, yn cynnwys y post mortem yn eithriadol o anodd.
"Dwi'n credu i ni orfod aros am bythefnos, roedd o'n sownd yn Yr Alban am bythefnos."
Wnaeth ei wraig meddai, oedd â chyflwr ar ei hysgyfaint, erioed ddod i delerau â marwolaeth ei mab.
"Roedd yn brwydro gyda'r galar," meddai.
"Fe gollodd ei hawydd a'i hegni."
Dywedodd Kevin bod Connor yn fab "anhygoel".
"Roedd yn hyfryd, yn barod ei gymorth ac yn weithiwr caled.
"Roedd yn blentyn y byddech chi wir yn dymuno ei gael."
'Effaith ddinistriol'
Yn dilyn y dedfrydu dywedodd yr Arolygydd David Marr bod eu meddyliau yn parhau i fod gyda theuluoedd a ffrindiau'r dynion fu farw yn y gwrthdrawiad.
"Fe wnaeth gweithredoedd anystyriol Colville arwain at farwolaethau tri dyn ifanc.
"Mae'n dangos y cyfrifoldeb sydd gan bob gyrrwr wrth fynd tu ôl i lyw cerbyd, a sut y gall gyrru peryglus gael effaith ddinistriol."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.