Ffermwr 'ofn bob tro mae'r defaid allan' wedi ymosodiadau cŵn

Dywedodd PC Iwan Owen y bydd y ddeddf newydd yn rhoi mwy o bwerau i'r heddlu ddelio ag ymosodiadau gan gŵn ar stoc
- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Mae llun yn y stori isod all beri gofid.
Mae deddf newydd sy'n rhoi mwy o bwerau i'r heddlu ymchwilio i ymosodiadau gan gŵn ar anifeiliaid fferm yn brawf bod y "llywodraeth yn gwrando", yn ôl Heddlu Gogledd Cymru.
O dan y ddeddf, gall swyddogion roi dirwyon di-derfyn i berchnogion cŵn sy'n ymosod ar anifeiliaid, cynnal profion DNA, a chadw cŵn am gyfnod amhenodol.
Wrth groesawu'r ddeddf, mae undeb amaeth NFU Cymru'n dweud bod ymosodiadau gan gŵn ar anifeiliaid fferm yn broblem sydd wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf.
Dywedodd Llywodraeth y DU y bydd y newidiadau'n lleihau'r straen ariannol ac emosiynol ar amaethwyr pan fydd ymosodiadau o'r fath yn digwydd.

Doedd dim modd profi pwy oedd berchen ar y cŵn ymosododd ar anifeiliaid Gareth Hughes
Yn 2020, collodd Gareth Hughes o fferm Cleifiog ger Y Fali ym Môn 22 o ddefaid ar ôl i gŵn ymosod ar ei stoc.
Dywedodd fod y gost ariannol yn sylweddol, ond fod y poen meddyliol yn fwy fyth.
"Dwi ofn bob tro mae'r defaid allan", meddai.
"Dwi just yn disgwyl phone call neu aros tan fydd o'n ôl [y mab] ac alla i relaxio bach wedyn.
"Roedd o'n beth ofnadwy i weld [...] yr hogyn nath weld y defaid - o'n i'n meddwl bod yn rhaid i ni roi counselling iddo.
"Roedd o'n really upset".
Er yn amau pwy oedd perchnogion y cŵn, dywedodd nad oedd modd profi hynny, gyda diffyg pwerau gan yr heddlu'n rhan o'r broblem ar y pryd.

Mae ymosodiadau gan gŵn yn "boen meddwl" meddai Medwyn Owen
Yn 2023, collodd Medwyn Owen o fferm Tandderwen yn Henryd ger Conwy chwech o ddefaid i ymosodiad gan gi.
Dywedodd ei fod hefyd wedi profi sawl achos tebyg yn y gorffennol, gyda chŵn yn tarfu ar ei stoc.
"Mae'n boen meddwl, yn enwedig pan 'da chi'n clywed bod ci wedi handwyo defaid a'u bod nhw heb ddarganfod pwy oedd berchen y ci," meddai.
"Mae o tu ôl i meddwl chi o hyd... oes na beryg iddo ddod gyda'r nos a 'neud mwy o ddifrod?
"Ac mewn lle fel mynydd, allwch chi ddim hel y defaid i gyd i mewn dros nos."
Yn ôl cymdeithas sy'n cynrychioli ffermwyr defaid, dywedodd 87% o'r rhai a gafodd eu holi eu bod wedi profi ymosodiad tebyg o fewn y flwyddyn ddiwethaf.
Fe wnaeth NFU Cymru amcangyfrif mai cost y broblem i'r gymuned amaeth oedd oddeutu £883,000 y flwyddyn yn 2023.

Collodd Gareth Hughes 22 o ddefaid yn 2020
Daeth y ddeddf newydd i rym ddiwedd mis Rhagfyr, gan roi mwy o bwerau i'r heddlu ddelio â chŵn sy'n ymosod ar stoc, a hefyd eu perchnogion.
Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, sydd ag uned arbenigol yn ymchwilio i droseddau cefn gwlad, mae'r newid yn dystiolaeth bod y llywodraeth yn deall effaith ymosodiadau o'r fath.
"Pan 'da ni'n mynd i'r drws a ddim yn cael [perchennog] yn cydweithio, mae'n golygu allwn i gael ynadon, warrant, mynd mewn a chwilio am y ci", meddai PC Iwan Owen, swyddog cymunedol gyda thîm troseddau cefn gwlad Heddlu Gogledd Cymru.
"Mi allwn ni gymryd y ci, mynd a fo o 'na a gwneud arbrofion arno.
"Mi allwn ni gadw'r ci yna nes fydd yr achos yn mynd i'r llys ac y perchennog fydd yn talu'r bil yna ac allai'r bil fod yn filoedd", meddai.

Aled Jones ydy Llywydd NFU Cymru
Dywedodd Llywydd NFU Cymru, Aled Jones, ei fod yn croesawu'r ddeddf newydd.
"'Sa unrhywun sydd 'di gweld yr anafiadau mae'r anifeiliaid yn ei gael, 'sa nhw'n dychryn.
"Dwi 'di weld o a 'di o ddim yn beth neis.
"Mae o mond yn iawn i bobl sylweddoli y gofid mae'n achosi nid yn unig i'r ffermwr ond y costau ariannol sy'n dod yn ei sgil."
Gyda datblygiadau profion DNA, mae'r llu yn cydweithio gyda Phrifysgol Lerpwl i roi hynny ar waith.
Wrth gyflwyno'r ddeddf mae Llywodraeth y DU yn dweud y bydd yn rhoi tawelwch meddwl i'r gymuned amaeth.
Ychwanegodd llefarydd y bydd y gallu i roi dirwyon di-derfyn yn "lleihau'r straen ar y gymuned amaethyddol".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Chwefror 2024

- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2021

- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf 2017
