Carcharu dyn o Wrecsam am werthu cemegion hunanladdiad ar-lein

Roedd Miles Cross, 33 o Wrecsam, wedi pledio'n euog ym mis Tachwedd i bedwar cyhuddiad o weithredu'n fwriadol i annog neu gynorthwyo hunanladdiad
- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Gallai'r cynnwys isod beri gofid i rai
Mae dyn a werthodd gemegion ar-lein y gallai pobl eu defnyddio i ladd eu hunain wedi cael ei garcharu am 14 mlynedd.
Roedd Miles Cross, 33 o Wrecsam, wedi pledio'n euog ym mis Tachwedd i bedwar cyhuddiad o weithredu'n fwriadol i annog neu gynorthwyo hunanladdiad.
Rhwng Awst a Medi 2024 roedd Cross wedi anfon sylwedd cemegol i bedwar o bobl y gwnaeth o eu cyfarfod ar fforwm ar-lein, ac wedi derbyn arian am bob pecyn iddo anfon drwy'r post. Bu farw un o'r pedwar, Shubreet Singh, oedd yn 29 oed ac yn byw yn Leeds.
Wrth ddedfrydu Cross yn Llys y Goron Yr Wyddgrug fore Mercher, fe ddywedodd y barnwr, Rhys Rowlands KC fod yr achos yn un "prin ac ofnadwy o ddifrifol".

Miles Cross yn cyrraedd Llys y Goron Yr Wyddgrug fore Mercher
Clywodd y llys fod y pedwar cyhuddiad yr oedd Cross yn eu hwynebu yn ymwneud â'i weithgarwch rhwng 9 Awst 2024 a 13 Medi 2024.
Dywedodd yr erlyniad fod Mr Cross wedi hysbysebu'r cemegion ar fforwm oedd yn trafod hunanladdiad, a'i fod wedi derbyn £100 gan y rhai oedd am eu prynu.
Yn ôl yr erlyniad, roedd Cross wedi dweud ei fod wedi ymuno â'r fforwm yn sgil ei sefyllfa emosiynol bersonol oedd wedi arwain at broblemau yfed, cyffuriau a gamblo.
Dywedodd wrth swyddogion y Gwasanaeth Prawf fod y fforwm fel "Beibl" a'i fod wedyn wedi cael gafael ar gemegion a sylwedd y byddai'n eu defnyddio i "helpu eraill ddod â'u bywydau i ben".
Gwrthodwyd hyn gan yr erlyniad, a ddywedodd fod Cross wedi sefydlu'r fenter ac wedi prynu'r cemegion cyn iddo ymuno â'r fforwm dan sylw.
Erbyn 2 Awst 2024 roedd gan Cross gyfrif ar y wefan ble roedd yn rhoi cyfarwyddiadau i bobl o ran sut i anfon arian ar gyfer y cemegion, meddai'r erlyniad.
Roedd cyfeiriad Cross wedi ei nodi ar y pedwar pecyn a gafodd eu hanfon ganddo, a chafodd un o'r bagiau hyn ei ddarganfod yn y man ble bu farw Ms Singh.
Ar ei ffôn roedd llun o sgwrs rhwng y ddau oedd yn dangos fod Cross wedi gofyn iddi a oedd hi angen help i gael gafael ar gyffuriau, ac roedd llun arall yn dangos ei bod wedi anfon arian at Cross.
Gobaith y bydd y ddedfryd 'yn rhybudd i eraill'
Dywedodd y barnwr Rhys Rowlands: "Mae hwn yn achos prin ac ofnadwy o ddifrifol sy'n ymwneud ag anfon sylwedd i unigolion mewn gofid - pobl a oedd yn cysylltu â chi ar fforwm hunanladdiad.
"Mae'r ffaith nad oeddech chi'n nabod y bobl hyn na chwaith yn ymwybodol pa mor fregus oedden nhw hefyd yn ffactor yn hyn.
"Nid oes yr un ddedfryd yn gallu gwneud yn iawn am yr effaith y mae colli bywyd yn ei gael ar deulu.
Ychwanegodd ei fod yn gobeithio y byddai'r ddedfryd yn "rhybudd i eraill".
Dyn yn cyfaddef gwerthu cemegyn hunanladdiad ar-lein
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2025
Cyhuddo dyn o werthu cemegyn hunanladdiad ar-lein
- Cyhoeddwyd16 Medi 2025
Mae'r ymchwiliad arweiniodd at arestio a chyhuddo Cross wedi cael ei ddisgrifio fel y cyntaf o'i fath yng ngwledydd Prydain.
Daeth Heddlu Gogledd Cymru i wybod am Miles Cross ar ôl i swyddogion Heddlu Thames Valley gysylltu â nhw yn dilyn ymchwiliad i hunanladdiad arall yn eu hardal.
Roedd taliadau amheus i Cross yn ddigon i godi amheuon ac mi aeth Heddlu'r Gogledd i gartref Cross yn Llys Nantgarw, Wrecsam ym mis Ionawr 2025. Yno cafwyd hyd i wenwyn.

Cafodd Cross ei ddedfrydu mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Yr Wyddgrug fore Mercher
Cyn i Cross gael ei ddedfrydu mi siaradodd un o'r bobl wnaeth brynu pecyn ganddo er mwyn rhybuddio pobl fregus eraill o'r peryg o chwilio am gymorth ar-lein. Nid oes modd enwi'r fenyw am resymau cyfreithiol.
"Ar yr adeg pan benderfynais i brynu'r sylwedd, roeddwn yn teimlo'n fregus, yn credu fod popeth yn drech na fi, ac yn diodde'n dawel," meddai'r fenyw.
"Mae'r profiad wedi achosi llawer iawn o boen emosiynol i mi. Nid wyf yn meddwl felly erbyn hyn, ond rwyf wedi gorfod gweithio' galed i wella ac i symud ymlaen i gyfeiriad mwy iach.
"Mae'r ffaith fod yr holl beth mor hawdd wedi gwneud i mi feddwl, taswn i heb weld synnwyr, a fyddwn i yma heddiw.
"Er nad yw e'n gwybod pwy ydw i ac er nad yw e o bosib yn ymwybodol o effaith yr hyn yr oedd yn ei wneud, fe allai'r sylwedd wnaeth o (Miles Cross) ei hysbysebu, werthu a gyrru i fi fod wedi dod â'm bywyd i ben ac wedi cael effaith hynod ddifrifol ar fy nheulu.
"Rwy'n gobeithio y bydd fy ngeiriau yn gymorth i eraill ac yn cynnig diogelwch i eraill all fod mewn sefyllfa debyg."
'Ymchwiliad unigryw'
Yn ôl Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, Gareth Evans, eu gobaith yw y bydd yr achos yma yn sicrhau fod pobl fregus yn fwy ymwybodol o "ysglyfaethwyr" fel Cross.
"Mae wedi bod yn ymchwiliad unigryw ac rydyn ni'n credu mai dyma'r cyntaf o'i fath yn y Deyrnas Unedig yn ymwneud â rhywun yn defnyddio fforwm ar-lein i dargedu pobl fregus," meddai.
Ychwanegodd fod Heddlu'r Gogledd wedi cydweithio gydag amryw asiantaethau yn ogystal ag Ofcom, rheoleiddiwr y cyfryngau, i sicrhau fod y fforwm gafodd ei ddefnyddio bellach ddim ar gael, ac i fynd i'r afael â chau fforymau tebyg.
"Rydyn ni wedi bod yn siarad â'r Samariaid ac Ofcom sydd wedi llwyddo i leihau mynediad pobl i rai fforymau ar-lein lle gallai pobl gael eu hanafu."
Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.