Y profion cartref a all ganfod canser y fron ac endometriosis

Mae Dr Helen Munro yn gobeithio bydd cyllid ychwanegol yn lleihau'r cyfnod mae'n cymryd i ymchwil iechyd i fenywod cael ei gyflwyno a'i rhoi ar waith
- Cyhoeddwyd
Mae profion arloesol newydd - a allai ganfod canser y fron ac endometriosis yn y cartref - yn cael eu datblygu ar hyn o bryd.
Dywedodd ymchwilwyr eu bod yn gobeithio cael prototeip o fewn y flwyddyn nesaf i ganfod canser yn gynnar gan ddefnyddio sampl wrin.
Mae prawf tebyg i wneud diagnosis o endometriosis a syndrom ofarïau polysystig (PCOS) hefyd yn cael ei archwilio, a allai, yn y tymor hir helpu i leihau amseroedd aros ar gyfer cael diagnosis.
Mae'r profion newydd yma yn rhan o'r datblygiadau diweddaraf ym maes iechyd menywod yng Nghymru, gyda chanolfannau iechyd menywod yn cael eu cyflwyno ledled y wlad.

Dywedodd yr Athro Luis Mur fod y tîm bellach yn datblygu profion llif ochrol i sicrhau cywirdeb wrth ganfod canser y fron
Dywedodd yr Athro Luis Mur, o Brifysgol Aberystwyth, fod modd sylwi ar newidiadau allweddol mewn prawf wrin ar gyfer canfod canser y fron.
Ychwanegodd fod y profion cartref yn cael eu gwneud i gefnogi'r ffurf bresennol o gael diagnosis.
"Rydym wedi canfod newidiadau pwysig iawn mewn wrin sy'n datgan os oes gennych ganser y fron, a hyd yn oed pa gam o ganser y fron," meddai.
"Rydym yn adeiladu pecynnau bach sy'n seiliedig ar wrin sy'n eich galluogi i fynd at eich meddyg teulu a'i gwblhau yno, neu hyd yn oed ei gwblhau yn eich cartref."
Ychwanegodd Mur fod ymchwilwyr bellach yn defnyddio'r un dull i ganfod endometriosis a PCOS, lle mae'r gallu i gael diagnosis yn "wael iawn ac yn cymryd llawer o amser".
Mae'r profion canser y fron ymhlith nifer o brosiectau sydd wedi derbyn cyllid fel rhan o fuddsoddiad £75m Llywodraeth Cymru i ymchwil iechyd menywod.
Dywedodd Mur y gallai gymryd 18 mis i ddatblygu'r prototeipiau llif unffordd (lateral flow test), yna rhwng tair a phum mlynedd i'w profi ymhellach i sicrhau cywirdeb.
"Mae angen i ni gael cywirdeb o 90% neu fwy - ar hyn o bryd mae gennym ni hynny, ond mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n cael hynny gyda'r offer ei hun," eglurodd.
Gallai miloedd yn fwy elwa o brawf canser 'trawsnewidiol' yng Nghymru
- Cyhoeddwyd12 Chwefror
'Doedd neb yn gwrando' - profiad merch o Wynedd o ganser gynaecolegol
- Cyhoeddwyd23 Ionawr
Cynllun newydd i 'gau'r bwlch iechyd rhwng y rhywiau'
- Cyhoeddwyd9 Rhagfyr 2024
Dywedodd Dr Helen Munro, arweinydd clinigol ar gyfer iechyd menywod yng Nghymru, mai un o nodau'r Ganolfan Ymchwil Iechyd Menywod oedd sicrhau bod canfyddiadau ymchwil fel yr un sy'n digwydd ym Mhrifysgol Aberystwyth ar waith yn glinigol "yn amserol".
"Ar hyn o bryd mae tystiolaeth yn awgrymu ei bod yn cymryd 17 mlynedd i dystiolaeth droi'n ddull sy'n cael ei ddefnyddio.
"Ond yr hyn rydyn ni'n ei wneud yng Nghymru yw gweithio'n agos iawn gyda'n prifysgolion academaidd a'n byrddau iechyd i fyrhau'r cyfnod hwnnw," meddai.
Mae'r cynllun 10 mlynedd ar iechyd menywod yng Nghymru, a gafodd ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2024, hefyd wedi nodi'r uchelgais i sefydlu canolfannau iechyd i fenywod ym mhob bwrdd iechyd.
Erbyn diwedd mis Mawrth, bydd gan bob bwrdd iechyd o leiaf un ganolfan yn gwasanaethu rhan o'u cymuned, er i Munro ddweud, "bydd pob un yn edrych yn wahanol".

Mae Dr Lauren Thomas wedi bod yn hyfforddi cydweithwyr i'w galluogi i ddarparu mwy o wasanaethau i fenywod ym meddygfeydd teulu yn lle ysbytai
Yng ngorllewin a chanolbarth Cymru, mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi rhannu'n saith rhanbarth ar sail meddygfeydd yr ardal.
Bydd gan bob un o'r rhanbarthau gwasanaeth iechyd i fenywod.
Mae meddygon teulu ym mhob rhanbarth wedi cael eu hyfforddi i ddarparu gofal menopos ac atal cenhedlu, ac maen nhw'n gallu derbyn atgyfeiriadau o feddygfeydd eraill, gan ddod â gofal arbenigol yn agosach i'r cartref.
"Ein nod yw gweld gostyngiad mewn atgyfeiriadau i ofal eilaidd, gyda menywod yn cael eu hatgyfeirio i'r canolfannau yma'n fwy prydlon," meddai Dana Scott, sy'n arwain y cynllun iechyd menywod ar gyfer Hywel Dda.
'Menywod yn aros misoedd'
Dywedodd Dr Lauren Thomas, meddyg iechyd rhyw sydd wedi bod yn hyfforddi meddygon teulu mewn ardaloedd mwy anghysbell y rhanbarth i ffitio coil a mewnblaniad atal cenhedlu, y byddai biopsïau uwchsain hefyd ar gael ym mhob sir.
"Fel meddyg teulu, rwy'n gweld menywod yn aros misoedd a misoedd a misoedd i weld gynaecolegwyr oherwydd yn amlwg mae'n rhaid i'r gwasanaeth gofal eilaidd flaenoriaethu achosion posib o ganser.
"Mae menywod yn cael eu gadael gyda phoen pelfig neu endometriosis, yn aros amser hir am drafodaethau, ymchwiliadau a thriniaethau y gallen nhw gael mynediad atyn nhw mewn clinig cymunedol, a gobeithio y byddwn yn gallu dod â hynny i fenywod wrth symud ymlaen."
Esboniodd Munro, er i'r canolfannau edrych yn wahanol ym mhob bwrdd iechyd, mae pob un wedi cael cyfarwyddyd i wasanaethu mewn tri maes: gofal menopos, atal cenhedlu ac iechyd y pelfis.
Dywedodd Sarah Murphy MS, y gweinidog â chyfrifoldeb dros iechyd menywod, fod pob bwrdd iechyd yn "dechrau o lefydd gwahanol".
"Maen nhw'n ceisio llenwi'r bylchau, gan chwalu'r rhwystrau ar gyfer pob un o'r ardaloedd a'r cymunedau hynny.
"Ond wrth i ni symud ymlaen bydd gwerthusiad a byddwn yn lledaenu'r arfer da hwnnw ledled Cymru."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.