Perchennog yn flin nad yw adran dai Gwynedd yn defnyddio Canolfan Hillgrove

Mae yna le i 18 person 16-25 oed sy'n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref yng Nghanolfan Hillgrove
- Cyhoeddwyd
Mae dyn busnes amlwg o Fangor yn honni ei bod hi'n anfoesol nad yw adran dai Cyngor Gwynedd yn defnyddio ei ganolfan i letya pobl ifanc ddigartref ym Mangor.
Mae Mark Watkin Jones wedi gwario £2.5 miliwn yn trawsnewid hen Ysgol Hillgrove yn y ddinas fel rhan o'i waith elusennol.
Mae yna le i 18 o bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed sy'n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref i fyw a derbyn cefnogaeth yno - mae'r gefnogaeth yn cynnwys cymorth i ddod o hyd i waith neu gyfleoedd ym myd addysg.
Dywed Cyngor Gwynedd bod ganddyn nhw eisoes gytundebau gyda nifer o ddarparwyr eraill yn yr ardal a'u bod yn diolch i berchnogion Hillgrove am fod mor eiddgar i wneud cyfraniad positif.
'Pobl ifanc Gwynedd sy'n colli allan'
Cafodd Canolfan Hillgrove ei sefydlu gan Mark Watkin Jones a'i bartner Susan Ashworth fel safle sy'n cynnig cefnogaeth 24 awr y dydd i'r rhai sy'n byw yno.
Maen nhw wedi penodi'r elusen Digartref Cyf i redeg y ganolfan ar eu rhan.
Mae'r elusen wedi bod yn gweithio efo pobl ifanc sy'n ddigartref ers 1998.
Dywed Mark Watkin Jones bod adran dai Cyngor Gwynedd yn gwrthod defnyddio'r safle er bod adran gwasanaethau cymdeithasol y cyngor yn gwneud.
"'Dan ni mewn argyfwng tai ac mae gennym ni o leiaf deg gwely sydd heb eu defnyddio yma bob nos ers i ni agor ym mis Mehefin," meddai Mr Jones
"Mi ddylai hyn i gyd fod am warchod oedolion ifanc bregus, i dorri'r cylch ar ôl iddyn nhw ddod trwy'r system gofal heb lawer o arweiniad.
"Mi rydan ni eisiau defnyddio'r adnoddau yma i sicrhau bod ganddyn nhw fywyd llawn unwaith maen nhw wedi gadael yma."
Ychwanegodd: "Dwi ddim yn dallt be' ydi'r broblem."

Mark Watkin Jones a'i bartner Susan Ashworth sefydlodd Canolfan Hillgrove
Yn ôl Mr Watkin Jones mae wyth person yn byw yn Hillgrove ar hyn o bryd ac mae'n dweud nad yw adran dai Cyngor Gwynedd yn defnyddio Canolfan Hillgrove.
Mae chwech o'r rhai sydd yn y ganolfan wedi dod yno drwy wasanaethau cymdeithasol Sir Conwy, mae un yno o Ynys Môn ac un arall wedi dod drwy wasanaethau cymdeithasol Gwynedd.
Ychwanega Mr Watkin Jones fod y sefyllfa yn ei wneud yn "rhwystredig" a'i fod yn ofni fod "pobl ifanc Gwynedd yn colli allan".
'Y lle gorau dwi erioed wedi byw'
Harrison Shone yw un o breswylwyr presennol Hillgrove.
Fe gafodd ei gyfeirio at y ganolfan gan Gyngor Conwy fis Awst 2025.
Roedd yn gaeth i gyffuriau ac alcohol a dywedodd ei fod wedi "colli'r cyfan" oherwydd ei ymddygiad.
Ond ar ôl blynyddoedd o fod "ar y llwybr anghywir" ac aros mewn nifer o gartrefi gofal, mi ofynnodd am gymorth.
"O'n i jyst yn meddwl bo fi am brofi i fi fy hun nad oeddwn i'r hyn oedd bobl yn dweud yr oeddwn i a bod gen i ddyfodol disglair o fy mlaen," meddai Harrison
"Dwi yna rŵan a dwi'n credu bo fi'r fersiwn gore o be' dwi wedi bod ers amser hir, dwi'n hapus."
Mae'n credu os na fyddai wedi symud i Hillgrove "na fyddai pethau wedi gorffen yn dda".
Dywedodd: "Mae'r lle yma wedi helpu fi mewn ffordd anhygoel… dyma'r lle gorau dwi erioed wedi byw ynddo… yn fy mywyd i gyd'.
"Gallwch chi ddim cael staff gwell, maen nhw mor gefnogol.
"Os da chi isio help efo unrhyw beth yn feddyliol, corfforol neu gyfleoedd, maen nhw'n gollwng pob peth a helpu.
"Mae hynna'n beth mawr i fi oherwydd efo dibyniaeth mae'n rhaid i fi gadw fy hun yn brysur.
"Felly'r cyfleoedd dwi'n ei gael… mae'n anferth ac yn helpu fi llawer."

Mae Harrison Shone yn dweud iddo gael 'help anhygoel' ers symud i fyw yn Hillgrove
Yn ôl Cyngor Gwynedd mae 80% o'r rhai sy'n ddigartref yn y sir rhwng 25 a 50 oed.
Maen nhw'n dweud y byddai cartrefu pobl ifanc sy'n byw filltiroedd o Fangor yn creu poen meddwl ychwanegol iddyn nhw.
Mae BBC Cymru wedi canfod bod naw allan o'r 25 o bobol sy'n byw mewn llety argyfwng brys yng Ngwynedd yn byw yn ardal Bangor.
Mae 10 gwely gwag yng Nghanolfan Hillgrove.
Pan heriwyd y cyngor am hyn dywedwyd bod y rhai sydd yn ardal Bangor yn "derbyn cymorth sydd wedi ei deilwra yn arbennig ar gyfer eu hanghenion a'u gofynion unigol nhw".
Cynllun 'arloesol' i greu unedau i bobl ddigartref yng Nghaernarfon
- Cyhoeddwyd23 Chwefror
'Alla i ddim diolch digon' - menyw ddigartref sydd wedi cael llety
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2025
'Y trawma o fod yn ddigartref yn 12 oed yn helpu fi i rannu fy stori'
- Cyhoeddwyd8 Medi 2025
Pan ofynnwyd pam bod gwasanaethau cymdeithasol Gwynedd yn defnyddio Hillgrove, ond bod yr adran dai yn gwrthod, dywedodd llefarydd ar ran y cyngor bod Hillgrove "wedi cael ei nodi fel llety addas i gyflenwi gofynion y person ifanc hwnnw ar hyn o bryd".
Ychwanegodd llefarydd: "Fe wnaeth y perchnogion esbonio i ni fod Hillgrove yn benodol wedi ei anelu at drigolion rhwng 16 a 25 oed ac mae gan Gyngor Gwynedd gytundebau mewn lle eisoes efo nifer o ddarparwyr lleol profiadol i gefnogi pobl ifanc ar draws y sir.
"Rydym yn diolch i berchnogion Hillgrove am fod mor eiddgar i wneud cyfraniad positif a bydd y cyngor yn ymchwilio i bosibiliadau eraill er lles pobl yng Ngwynedd."